Y cymeriadau: yr Apache
Chico 鈥 cymeriad dychmygol
Cafodd ei rieni eu lladd gan y Mecsicaniaid pan oedd tua 15 mlwydd oed. Cafodd ei fabwysiadu gan Geronimo, un o benaethiaid llwyth yr Apache. Gwelodd Geronimo ei fod yn heliwr a rhyfelwr cadarn
ac mae鈥檔 cael ei baratoi i fod yn bennaeth yn y dyfodol.
Ar ddechrau鈥檙 nofel mae tua 24 mlwydd oed. Mae鈥檔 诺r i Haul y Bore, sef merch Manuelito, un o ricos llwyth y Navaho. Mae Manuelito hefyd yn credu y bydd Chico yn bennaeth ar yr Apache wedi dyddiau Geronimo. Cafodd Chico a Haul y Bore fab o鈥檙 enw Chiquito ond ni chafodd Chico gyfle i weld ei fab yn fyw, dim ond gweld ei goeden.
Cafodd yr hanes am dreisio鈥檌 wraig a lladd ei blentyn gan yr hen wraig ddoeth Quanah. Mae鈥檔 dial ar y Capten Victor Dicks a鈥檌 ddynion ar ei ben ei hun gan ladd nifer ohonyn nhw drwy daflu casgen yn llawn blaenau saethau a phowdr du i d芒n eu gwersyll. Mae鈥檔 cael ei ddal gan Dicks a鈥檌 adael i farw ond mae鈥檔 ennyn parch sgowtiaid y Cotiau Glas, yr Arapaho hanner brid, ac maen nhw鈥檔 achub ei fywyd cyn i鈥檙 bleiddiaid ei fwyta鈥檔 fyw. Saethodd Dicks e yn ei bennau-gliniau a'i adael i farw. Mae hyn yn golygu bod gwendid mawr yn ei goesau drwy鈥檙 nofel 鈥 daw hyn i鈥檙 amlwg wrth ddwyn gwartheg yn Albuquerque.
Wrth drafod ei gynllun ar sut i ddial eto ar y Cotiau Glas, gyda Tanuah, un o sgowtiaid yr Arapaho, mae ei eiriau yn adlewyrchu ei gymeriad, Tyrd ti 芒 cheffyl i mi, Tanuah, ac fe gei di weld pa mor anabl ydw i!
Mae鈥檔 defnyddio鈥檙 modd gorchmynnol ac mae penderfyniad yn ei lais. Dyma lais cymeriad awdurdodol sy鈥檔 ein hatgoffa o Geronimo. Mae gwaed arweinydd yn sicr yn Chico.
Chiquito 鈥 cymeriad dychmygol
Ystyr ei enw ydy Chico bach
ac mae鈥檔 fab i Haul y Bore (Navaho) a Chico (Apache). Mae ganddo ddau daid sy鈥檔 arweinwyr cryf ymysg llwythau鈥檙 Indiaid, sef Manuelito (Navaho a thad Haul y Bore) a Geronimo (Apache a llysdad Chico). Mae鈥檔 saith diwrnod oed ar ddechrau鈥檙 nofel.
Fe鈥檌 llofruddiwyd mewn modd erchyll o flaen ei fam gan y Capten Victor Dicks, un o鈥檙 Cotiau Glas. Rhoddwyd cleddyf yn ei stumog a thorrwyd ei ben. Mae鈥檙 hyn a ddigwyddodd iddo鈥檔 troi鈥檔 chwedl ymysg llwythau鈥檙 Indiaid ac yn fodd i ysbrydoli鈥檙 Indiaid i ddial ar y dyn gwyn. Dywed Kit Carson wrth y Cadfridog Carleton: Chlywsoch chi ddim am 鈥楥hiquito鈥, syr? Chlywsoch chi mo鈥檙 Indiaid yn s么n am ddial?
Mangas Coloradas 鈥 cymeriad hanesyddol
Pennaeth hynafol llwyth yr Apache sydd wedi llwyddo i gadw鈥檙 heddwch gyda鈥檙 dyn gwyn. Drwy amynedd a doethineb ... a bygwth!
meddai Manuelito. Fe鈥檌 olynwyd gan Geronimo yn ddiweddarach.
Quanah 鈥 cymeriad dychmygol
Hen wraig ddoeth yr Apache. Mae hi鈥檔 81 mlwydd oed ac wedi gweld pethau erchyll. Quanah adroddodd hanes lladd Chiquito a threisio Haul y Bore wrth Geronimo a Chico. Canu cyn adrodd yr hanes wrth Chico, y canu yn ei chynorthwyo i ddweud ei stori erchyll. (Mae hi鈥檔 ein hatgoffa o gymeriad Heledd ym marddoniaeth gynharaf Cymru. Mae Quanah yn crwydro ar ei phen ei hun drwy ganol dinistr ei chartref a llanast y gwersyll pan ddaw Chico o hyd iddi.)
Ar y Daith Faith i鈥檙 Bosque Redondo mae Quanah yn cael cymorth Haul y Bore i gerdded. Mae hi鈥檔 dweud wrth Haul y Bore nad oes gan Herrero Grande, sy鈥檔 Navaho, ddim yr un ysbryd dewr 芒 Geronimo, sy鈥檔 Apache fel hi. Daw milwr i鈥檞 chwipio am ei bod yn gorffwyso wrth gerdded ar y Daith Faith ac mae Haul y Bore yn achub ei bywyd drwy sefyll rhwng y milwr a鈥檙 chwip.
Geronimo 鈥 cymeriad hanesyddol
Un o benboethiaid yr Apache. Roedd yn cydweithio鈥檔 llwyddiannus 芒 Cochise i greu hafog ymysg y setlwyr gwyn. Mae鈥檔 amlwg bod Geronimo yn ymddwyn fel arweinydd wrth iddo dderbyn Kit Carson yn garcharor. Mae鈥檔 poeri yn wyneb Carson ac yn siarad yn rhyfelgar ag e 鈥 gwell gan Indiad ydi gweld pelydrau鈥檙 haul yn disgleirio ar ei boer ei hun nag ar ddagrau plant mewn newyn鈥 ac 鈥榶n gyntaf, caiff ddod gyda ni heddiw i weld drosto鈥檌 hun beth fu effaith y llosgi ar ysbryd yr Indiaid
.
Cafodd hwyl fawr o weld ei boster a鈥檌 lun arno yn cynnig $500 am ei ddal yn fyw neu鈥檔 farw. Nid ydy Geronimo yn ildio gyda鈥檙 Navaho. Mae ganddo gynllun i adael am Mecsico dros y gaeaf a dychwelyd i鈥檞 tiroedd yn y gwanwyn. Geronimo!
oedd yr enw a waeddodd Carson cyn saethu鈥檙 saeth a achubodd fywyd Herrero Grande pan oedd Dicks ar fin ei saethu. Mae hi鈥檔 amlwg bod nerth yn ei enw yn unig!
Cochise 鈥 cymeriad hanesyddol
Un o benboethiaid yr Apache a fe ydy鈥檙 un sy鈥檔 dal Kit Carson yn cysgu ar ei ffordd i Ffort Sumner. Caiff Cochise y fraint o lusgo Kit Carson y tu 么l i鈥檞 geffyl at draed Geronimo. Enw ei fab ydy Naiche. Cafodd Naiche ei ddal gan Carleton a roedd hyn yn bluen yn het y Cadfridog
.