大象传媒

Y cymeriadau: y Cotiau Glas

Is-gyrnol Kit Carson 鈥 cymeriad hanesyddol

Mae Kit Carson yn 47 mlwydd oed yn y nofel ac yn Is-gyrnol ym myddin y Cotiau Glas. Enw鈥檙 Navaho arno oedd Taflwr Rhaffau. Roedd yn credu鈥檔 gryf mewn uno taleithiau America a hefyd mewn dileu caethwasiaeth. Mae ei wyneb yn greithiau byw wedi sawl hen ysgarmes, mae鈥檔 moeli ac mae mwstas trwchus ganddo. Roedd e鈥檔 rhyfelwr penigamp ac arweinydd heb ei ail.

Roedd Carson yn deall yr Indiaid ac roedden nhw鈥檔 ei barchu. Roedd Kit Carson wedi bod yn byw ymhlith yr Indiaid ac wedi cyd-fyw 芒 merch o lwyth y Cheyenne. Roedd e hefyd yn dad i ferch o lwyth yr Arapaho. Priododd wraig o鈥檙 enw Joseffa a gadael y fyddin ond roedd e鈥檔 anhapus iawn a phenderfynodd ddychwelyd.

Anfonodd y Cadfridog Carleton am gymorth Carson i symud y Navaho i Bosque Redondo. Roedd Carson yn deall bod yr anochel wedi dod a bod rhaid symud yr Indiaid er mwyn eu gwarchod yn ogystal 芒 sicrhau tir i鈥檙 setlwyr gwyn. Er hynny, nid oedd yn hapus gyda鈥檙 gorchymyn. Doedd Carson ddim yn gallu credu y byddai鈥檙 Cotiau Glas yn anfon y Navaho i dir gwael ac anffrwythlon. Yn amlwg nid oedd wedi gweld Bosque Redondo cyn ceisio eu symud yno.

Cadfridog James Henry Carleton 鈥 cymeriad hanesyddol

Cadfridog ym myddin y Cotiau Glas ydy Carleton. Daeth Carleton yn gyfrifol am Ffort Defiance yn dilyn rhyddhau鈥檙 Cyrnol Edward Canby o鈥檌 ddyletswyddau yno ym 1862. Cyn hynny bu鈥檔 gyfrifol am symud 2000 o Apache o ddyffryn y Rio Grande i鈥檙 Bosque Redondo. Arweiniodd Carleton y Capten Victor Dicks a鈥檙 Capten Paddy Graydon wrth drechu y Mescaleros, llwyth o Apache. Fe dwyllodd yr Indiaid drwy ffugio heddwch gan ladd yr arweinwyr a chludo pum cant a hanner ohonyn nhw i鈥檙 Bosque. Gwnaeth hyn cyn dechrau ar y gwaith o symud y Navaho. (Nid ydy鈥檙 stori hon yn hanesyddol gywir ond mae鈥檔 hanesyddol gywir bod y Mescaleros wedi cael eu symud i Bosque Redondo cyn y Navaho.)

Gadawodd i Kit Carson wneud y gwaith o symud y Navaho oherwydd nad oedden nhw mor dreisgar 芒鈥檙 llwythau eraill ac roedd angen bod yn fwy diplomyddol a siarad gyda nhw. Efallai bod Carleton yn adnabod ei hun yn dda 鈥 nid oedd siarad 芒鈥檙 Indiaid yn un o鈥檌 gryfderau. Efallai y byddai wedi delio 芒 nhw ei hunan pe bai鈥檙 Navaho yn fwy treisgar. Mae鈥檔 cyhuddo Carson o siarad 芒鈥檌 galon (yn hytrach na鈥檌 ben) wrth drafod yr Indiaid.

Mae awgrym bod naill ai ofn Dicks ar Carleton neu ei fod yn cau ei lygaid i鈥檞 weithredoedd wrth ymdrin 芒鈥檙 Indiaid ac nid ydy Carson yn credu y byddai Carleton yn gwneud dim i Dicks. Ymateb Carleton i adroddiad Dicks, yn dilyn ei ymosodiad ar wersyll yr Apache a threisio Haul y Bore ydy, Mae pethau fel hyn yn digwydd mewn rhyfel. Mae鈥檙 dyfyniad hwn yn dangos sut y gall Carleton esgusodi a derbyn unrhyw drais yn erbyn yr Indiaid. Mae鈥檔 credu mai milwr mewn rhyfel ydy e ac felly rhaid derbyn bod pobl ddiniwed a diamddiffyn yn mynd i gael eu lladd. Pan mae Carson yn cwestiynu hyn, mae Carleton yn dangos ei awdurdod ac yn sgwario at Carson gan fynnu ei fod yn dilyn ei orchmynion. Serch hynny, mae Carleton yn amlwg yn parchu Carson gan ei fod yn gofyn iddo, Beth fyddi di鈥檔 ei wneud nesa? 鈥 mae鈥檔 amlwg nad ydy Carleton yn si诺r sut i ddelio 芒 Dicks fel person nac fel milwr.

Gwnaeth gamgymeriad mawr adeg brwydr Ffort Defiance. Wrth roi gorchmynion i鈥檙 Capten Gregory mae鈥檙 milwr yn ei gymeriad yn mwynhau鈥檙 syniad o frwydro ond yn ei falchder diystyrodd gryfder a grym dialedd Geronimo. Mae鈥檙 cwestiynu yn dilyn y frwydr hon yn adlewyrchu gwendidau mawr yn ei gymeriad, Oedd o鈥檔 rhy feddal hefo鈥檙 Indiaid? Tybed? Yn dilyn y frwydr hon, mae Carleton fel pe bai鈥檔 ochri mwy 芒 Dicks a鈥檌 ddulliau treisgar er mwyn cyflawni gorchmynion yr Arlywydd yn Washington. Mae鈥檔 ymbellhau oddi wrth Carson a鈥檙 parch sydd gan hwnnw tuag at yr Indiaid. Mae鈥檙 awdur fel pe bai鈥檔 awgrymu bod yr erchylltra sy鈥檔 dilyn, a鈥檙 Daith Faith ei hun yn arbennig, yn deillio o wendidau Carleton a鈥檌 amcanion personol yntau, wrth iddo geisio profi ei hun i鈥檙 Cyrnol Canby.

Victor Dicks 鈥 cymeriad dychmygol

Capten ym myddin y Cotiau Glas ydy Victor Dicks. Mae鈥檔 诺r mawr cydnerth tua 45 mlwydd oed 芒 barf goch yn cuddio鈥檙 rhan fwyaf o鈥檌 wyneb. Mae鈥檔 cnoi baco ac mae ei ddannedd yn fudr oherwydd hynny. Mae ganddo graith wen o dan ei lygad chwith.

Mae鈥檔 gymeriad treisgar a chynllwyngar. Rydyn ni鈥檔 clywed amdano鈥檔 twyllo鈥檙 Apache drwy gynnig anrhegion iddyn nhw ac yfed wisgi gyda nhw, yna鈥檔 eu saethu鈥檔 farw. Mae Dicks yn hoff iawn o eiriau鈥檙 Cadfridog Sherridan, Yr unig Indiad da oedd Indiad marw. Pan ymosododd Dicks ar wersyll o Indiaid Apache, treisiodd un o鈥檙 merched (Haul y Bore) o flaen ei ddynion. Cyn hynny fe roddodd ei gleddyf drwy stumog ei phlentyn bach saith niwrnod oed (Chiquito) ac yna torri ei ben o flaen ei fam. Mae ei weithredoedd yn erchyll a鈥檌 ymddygiad yn ffiaidd.

Capten Gregory 鈥 cymeriad dychmygol

Adeg Brwydr Ffort Defiance dyma鈥檙 Capten a anfonodd Carleton o鈥檙 ffort i ymosod ar Geronimo.

Sarjant di-enw 鈥 cymeriad dychmygol

Carleton eisiau sicrwydd ganddo fod ei benderfyniad i ymosod ar Geronimo wedi bod yn un doeth.

Corporal di-enw 鈥 cymeriad dychmygol

Mae鈥檔 gwarchod Carson yn ei gell ond yn rhoi gwn ar bl芒t bwyd er mwyn iddo allu dianc oherwydd ei fod yn anhapus iawn 芒 dulliau Dicks.

Capten Patrick O鈥機onnor 鈥 cymeriad dychmygol

Gwyddel mawr, barfog ydy鈥檙 capten hwn a fe sy鈥檔 cael y cyfrifoldeb o arwain yr Indiaid ar y Daith Faith wedi i Victor Dicks gael ei saethu 芒 saeth gan Chico a鈥檌 anafu鈥檔 ddifrifol. Mae ganddo well perthynas na Dicks 芒鈥檙 Indiaid sydd dan ei ofal ac mae鈥檔 siarad yn bwyllog 芒 Herrero Grande. Mae O鈥機onnor hefyd yn adnabod Carson ac yn ei gyfarch fel 鈥楰it!鈥 ac yn rhannu gwydraid o wisgi ag e. Mae O鈥機onnor yn rhoi cyfle i Carson achub ei hun rhag cosbau mae'n eu hwynebu gan ei fyddin ei hun. Mae鈥檔 cytuno mynd 芒 llythyr ysgrifennodd Carson at Sherman yn egluro ei sefyllfa. O鈥機onnor hefyd sy鈥檔 dweud wrth Carson bod Chico wedi cael ei ladd a bod Haul y Bore wedi ei dal.

William Tecumseh Sherman 鈥 cymeriad hanesyddol

Nid ydyn ni鈥檔 cyfarfod y cymeriad hwn yn y nofel ond mae鈥檔 Gadfridog ym myddin y Cotiau Glas ac mae gan Kit Carson barch mawr ato. Mae Carson yn gofyn i鈥檙 Capten Patrick O鈥機onnor fynd 芒 llythyr ato yn egluro ei sefyllfa. Dim ond i Sherman y mae Carson yn fodlon ildio 鈥 nid i Carleton na Canby. Mae Carson yn gobeithio y gallai Sherman roi geirda iddo pe bai鈥檔 wynebu cael ei ddisgyblu.

Cyrnol Edward Richard Sprigg Canby 鈥 cymeriad hanesyddol

Daeth Herrero Grande, Manuelito a ricos eraill y Navaho at Canby yn Ffort Wingate i arwyddo cytundeb heddwch. Yn dilyn Brwydr Ffort Defiance mae Carleton yn anfon neges ato yn gofyn am fwy o filwyr. Mae Canby yn gwrthod anfon mwy o filwyr at Carleton (mae鈥檔 amlwg nad ydyn nhw鈥檔 gyfeillion) ac yn ei gyhuddo o fethu amddiffyn y ffort ei hun heb s么n am allu amddiffyn y setlwyr gwyn.

Mae Canby yn bygwth gosod rhywun arall yn safle Carleton yn Ffort Defiance os nad ydy鈥檔 llwyddo i ddilyn gorchmynion yr Arlywydd yn Washington. Mae鈥檙 cyhuddiadau a鈥檙 bygythiadau hyn yn gwneud i Carleton fod eisiau profi i Canby ei fod wedi gwneud cam mawr ag e. Mae Carson yn llwyddo i ddychryn Carleton drwy awgrymu y dylai Canby fod yn bresennol yn ei gwrt-marsial a deallwn yma fod ar Carleton ofn Canby.