Ymarfer - haen sylfaenol
Mae hon yn dasg ar gyfer yr haen sylfaenol.
Darllena'r darn hwn o'r nofel sy'n adrodd hanes Brwydr Ffort Defiance a cheisia ateb y cwestiwn sy'n dilyn:
Roedd Carleton yn gwybod mai ofer fyddai iddo geisio ymuno yn y frwydr gydag ychwaneg o ddynion. Prin hanner cant oedd ganddo ar 么l i amddiffyn y Ffort 鈥 roedd y gweddill wedi mynd i ganlyn Dicks i Geunant de Chelley. Gallai gicio鈥檌 hun am fod mor wirion 芒 disgyn i drap yr Apache, ond doedd o erioed wedi dychmygu fod gan Geronimo y fath niferoedd y tu cefn iddo. Doedd o erioed ychwaith wedi gweld y fath ffyrnigrwydd yn eu brwydro.
Gwyliai鈥檙 Apache yn taenu cyrff eu cymrodyr meirwon yn un rhes hir, cyn eu gorchuddio 芒 changhennau鈥檙 coed, ac yna鈥檜 tanio. Cododd arogl anhyfryd cyrff yn llosgi i鈥檙 awyr.
Yna, gan wybod fod Carleton yn gwylio pob symudiad, amneidiodd Geronimo ar ei ddynion i ddwyn arfau milwyr y Cotiau Glas i gyd. Yna, pan oedd y cyfan wedi鈥檜 casglu, gafaelodd Geronimo yn ei bicell a cherddodd ugain llath tuag at y Ffort. Plethodd blu gwynion yn eu hesgyll, a chyda hyrddiad anferth taflodd hi鈥檔 uchel i鈥檙 awyr. Disgynnodd y bicell rhyw ddecllath o鈥檌 flaen, a鈥檌 phaladr yn dynn ym mhridd y ddaear. Crynodd y plu gwynion am ennyd, ac yna llonyddodd y bicell. Daliai鈥檙 plu i symud yn y gwynt.
Question
Sut gymeriad yw鈥檙 Cadfridog Carleton? Rho enghreifftiau o鈥檙 ffordd y mae鈥檔 ymddwyn.
Dyma enghraifft o ateb da iawn:
Y Cadfridog Carleton sy鈥檔 gyfrifiol am Ffort Defiance ac mae鈥檔 gyfrifol am lawer o filwyr y Cotiau Glas. Nid ydy Carleton yn arweinydd cryf iawn oherwydd mae鈥檔 gofyn i Carson beth ddylai ei wneud o hyd. Mae Carleton yn hoff iawn o ddangos ei awdurdod ac nid ydy鈥檔 hoffi i unrhyw un ddadlau ag ef. Bydd yn codi ei lais pan fydd yn flin ac yn gorchymyn i filwyr eraill wneud beth mae e eisiau iddyn nhw ei wneud.
Yn y darn hwn mae鈥檔 siomedig iawn ei fod wedi colli cymaint o ddynion ac mae鈥檔 credu mai ei fai e ydy'r cyfan ac a dweud y gwir mae o鈥檔 hollol gywir! Roedd e wedi mynd yn ben mawr. Doedd e ddim wedi meddwl y gallai Geronimo fod mor gryf a doedd e ddim wedi disgwyl iddyn nhw ymosod mor ffyrnig. Mae llwythau鈥檙 Indiaid yn cael amser caled iawn gan Carleton a bydd yn ymosod yn greulon arnyn nhw os nad ydyn nhw鈥檔 gwneud fel mae e eisiau iddyn nhw ei wneud.
Dyma ddigwyddodd i鈥檙 Navaho pan oedden nhw鈥檔 gwrthod symud o Geunant de Chelley 鈥 gorfododd Carleton nhw i symud drwy drais. Mae鈥檔 filwr rhyfelgar iawn ac yn gadael i Dicks wneud pethau ofnadwy, fel lladd Chiquito, heb ofyn cwestiynau. Rydw i鈥檔 credu bod hyn yn dangos bod Carleton yn gymeriad drwg ond hefyd yn gymeriad penderfynol iawn.
Rho gynnig ar gwestiwn a darn darllen gwahanol.
Darllena鈥檙 darn canlynol o ddechrau鈥檙 nofel pan fo Manuelito yn canfod Haul y Bore a cheisia ateb y cwestiwn sy'n dilyn:
Arafodd ei cham. Ymhen awr neu ddwy eto, gallai guddio a gorffwys tan y bore. Dilynodd y ffordd am rai milltiroedd cyn gadael y coed o鈥檌 h么l. Cerddai鈥檔 hamddenol braf. Ymestynnai gwlad eang o鈥檌 blaen, peth ohoni鈥檔 dir ffrwythlon a choediog, ond roedd y ffordd yn arwain trwy anialdir caregog a chreigiog. Yn y pellter gallai weld Mynyddoedd y Chusca. Gwenodd a daeth sbonc yn 么l i鈥檞 cham. Yno roedd Ceunant de Chelley, Manuelito, Juanita, lloches a diogewlch.
Troes yn ei h么l yn sydyn. Roedd wedi clywed s诺n carnau ceffylau. Roedd yna bedwar neu bump o geffylau yn ei dilyn. Dechreuodd redeg. Diawliodd ei hun am grwydro mor bell o gysgod y coed tra oedd yr haul yn uchel yn y nen. Rhedodd yn syth at y clwmp agosaf o goed oedd tua hanner milltir draw. Roedd hi鈥檔 gwybod bod y ceffylau yn ei dilyn oherwydd clywai lais yn gweiddi a s诺n carlamu鈥檙 ceffylau鈥檔 dod yn nes.
Gwyddai yn ei chalon na fyddai byth yn cyrraedd y coed. Roedd rhywun yn gweiddi. Roedd y ceffylau ar ei gwarthaf. Baglodd a syrthio ar ei hwyneb. Sgrechiodd.
Chiquito! Chiquito!
Yna, roedd twrf o鈥檌 hamgylch. Ceffylau aflonydd. Coesau ceffylau, carnau ceffylau. Suddodd ei chalon. Daeth p芒r o esgidiau lledr, gloyw i鈥檙 golwg. Esgidiau yn perthyn i un o filwyr y Cotiau Glas.
Question
Sut gymeriad ydy Manuelito? Rho enghreifftiau o鈥檙 ffordd y mae鈥檔 ymddwyn.
Dyma enghraifft o ateb da iawn:
Un o ricos y Navaho ydy Manuelito ac ef hefyd ydy tad Haul y Bore. Mae e鈥檔 arweinydd cryf a dewr a phan fydd e鈥檔 siarad bydd pobl yn gwrando arno ac yn dilyn ei gyngor. Pan ddaeth Manuelito o hyd i Haul y Bore a chlywed iddi gael ei threisio a gweld llofruddiaeth ei mab roedd e鈥檔 ofalus iawn ohoni a bu鈥檔 ei golchi ac yn edrych ar ei h么l hi. Wedi deall yn iawn beth sydd wedi digwydd i鈥檞 ferch mae e eisiau dial ac er ei fod e fel arfer yn fwy hapus i siarad a datrys problemau drwy drafod pethau mae e鈥檔 flin iawn gyda鈥檙 Cotiau Glas ac eisiau defnyddio trais i ddial arnyn nhw.
Yn y nofel mae e鈥檔 dadlau gyda Herrero Grande fwy nag unwaith yngl欧n 芒 hyn. Mae e鈥檔 ddyn penderfynol iawn a dydi o ddim eisiau i neb arall o鈥檌 deulu a llwyth y Navaho ddioddef fel y gwnaeth Haul y Bore. Roedd Manuelito yn drist ac yn flin iawn pan oedd rhaid i鈥檙 Navaho adael eu cartref yng Ngheunant de Chelley 鈥 roedd e鈥檔 teimlo y dylai o fod wedi gwneud mwy i rwystro鈥檙 Cotiau Glas.