Ymarfer - haen uwch
Mae hon yn dasg ar gyfer yr haen uwch.
Beth am ddisgrifio cymeriad drwy ei eiriau ei hun? Hynny ydy, ysgrifennu ymson, dyddiadur neu lythyr cymeriad.
Question
Ysgrifenna ymson Manuelito ar ddiwedd y nofel hon. Ysgrifenna tua 1陆 tudalen A4.
Mae鈥檙 cwestiwn hwn eisiau i ti ddisgrifio cymeriad Manuelito drwy roi dy hun yn ei esgidiau e a chyfeirio at rannau penodol o鈥檙 nofel yn gyson yn yr ymson. Darllena鈥檙 ateb enghreifftiol isod i ti gael syniad o鈥檙 math o ateb (a hyd yr ateb) sy鈥檔 addas:
Pe bai鈥檙 creigiau hyn yn gallu crio fe fydden nhw yn crio gwaed heddiw. Pe bai鈥檙 coed hyn yn gallu gweiddi fe fydden nhw yn sgrechian heddiw. Pe bai鈥檙 afon hon yn gallu siarad ni fyddwn eisiau clywed ei stori 鈥 fe fyddai ei stori鈥檔 waeth na straeon Quanah.
Daeth y dyn gwyn a dwyn popeth oddi arnaf i a鈥檓 llwyth y Navaho. Ni ddychmygais erioed y gwelwn i y fath drais a dinistr a chwalwyd fy mreuddwydion i gyd yn ulw. B没m i鈥檔 wan i wrando ar eiriau Herrero Grande a pheidio ag ymladd yn erbyn trais y Dyn Gwyn ond roedd rhaid i mi wrando arno 鈥 fe oedd pennaeth y ricos a gwrando ar ei air e y dylai pob Navaho ei wneud yn unol ag arferion y llwyth, ond ni allaf feio neb ond mi fy hun am beidio a dilyn fy ngreddf a brwydro yn erbyn y Cotiau Glas.
Gwrandewais ar eiriau heddwch Cyrnol Canby yn Ffort Wingate a gwisgais ei esgidiau lledr. Gwrandewais hefyd ar eiriau鈥檙 Taflwr Rhaffau, dywedodd y gwir yngl欧n 芒 thynged Ceunant de Chelley ond ni lwyddais i achub perl ein cyndeidiau. Yn wir, arweiniais fy llwyth o鈥檙 Ceunant y bore erchyll hwnnw gan wybod bod y ddwy hen wraig a drywanodd eu hunain i farwolaeth o fy mlaen wedi bod yn fwy dewr na mi. Ond allwn i ddim mynd yn groes i orchmynion Herrero 鈥 allwn i?
Ble rwyt ti heddiw Haul y Bore? Wyt ti yma ar lan yr afon hon gyda mi? Wyt ti gyda鈥檛h fab a鈥檓 诺yr bach i Chiquito? Ydi dy 诺r dewr Chico yn edrych ar dy 么l yn rhywle llawer mwy heddychlon na鈥檙 ddaear hon? Gobeithio鈥檔 wir. Gobeithio hefyd dy fod yn gwybod cymaint ydy fy nghariad tuag atoch chi eich tri ac mor falch ydw i ohonoch chi a鈥檆h dewrder. Meddyliaf amdanat ti, Haul y Bore, yn cynnal ein rico Barboncito ac yn ei wneud yntau鈥檔 ddigon dewr i ymosod ar Dicks a鈥檌 filwyr drwy daflu鈥檙 creigiau i lawr arnynt yn y Ceunant wrth iddyn nhw ddychwelyd o fod yn difa鈥檙 perllannau. Mae fy ngwaed yn berwi bob tro y clywaf enw Dicks a bu dialedd Chico arno yn deilwng o enw dy fab.
Ond sut y mae anghofio beth wnaeth y Cotiau Glas i ni ac i ti? Roedd gweld ein llwyth ar y Daith Faith yn ddigon i dorri calon y Navaho dewraf ac mae geiriau Armijo yn dal i atsain yn fy mhen, 鈥極nid ydi hi鈥檔 well i鈥檔 pobl fyw ar y Bosque na marw yma?鈥 鈥 rwy鈥檔 dal yn sicr y byddai wedi bod yn well i ni ymladd a marw yng Ngheunant de Chelley na鈥檙 hyn sydd yn wynebu鈥檙 llwyth ar dir gwael y Bosque yn y blynyddoedd sydd i ddod. Fe wnest tithau鈥檔 iawn i beidio 芒 gadael i Dicks dy drechu di fy merch.
Os wyt ti鈥檔 dal i wrando arna i Haul y Bore addawaf gerbron Usen y byddaf yn dial ar y Dyn Gwyn am ei drais yn erbyn ein pobl a鈥檔 cefndryd a byddi di hefyd yn falch ohona i ryw ddiwrnod 鈥 ni wnaf i fyth anghofio dy aberth di er ein mwyn ni i gyd.