Gwaith dyfeisiedig
Os byddi di鈥檔 gweithio ar ddarn dyfeisiedig a bod angen defnyddio Theatr Gorfforol, gwna'n si诺r bod yr hyn y byddi di鈥檔 ei wneud yn ychwanegu at effeithiolrwydd y perfformiad fel nad ydy'r gwaith corfforol yn edrych fel ychwanegiad ar hap yn unig. Rhaid iddo gyd-fynd ag arddull y cynhyrchiad. Ysbrydolwyd cynhyrchiad hynod lwyddiannus y National Theatre o One Man, Two Guvnors, gan y ddrama commedia dell鈥檃rteMath o gomedi fyrfyfyr yn seiliedig ar gymeriadau stoc a oedd yn boblogaidd yn yr Eidal rhwng y 16eg a'r 18fed ganrif. Roedd y dram芒u yn dilyn llond dwrn o blotiau sylfaenol ac roedd actorion yn tynnu ar ddigwyddiadau cyfredol wrth addasu eu dialog a'r hyn a oedd yn digwydd. o'r 17eg ganrif, Il servitore di due padroni (Gwas Dau Feistr yn Gymraeg). Roedd yn defnyddio arddulliau comedi corfforol y Commedia megis defnydd y ffurf o lazzi (gair Eidaleg am j么c) corfforol ac ychwanegodd hyn lawer at y cynhyrchiad.
Yng Nghymru mae cwmn茂au megis Arad Goch yn gwneud llawer o waith gan ddefnyddio鈥檙 dechneg hon. Os byddi di鈥檔 defnyddio commedia dell鈥檃rteMath o gomedi fyrfyfyr yn seiliedig ar gymeriadau stoc a oedd yn boblogaidd yn yr Eidal rhwng y 16eg a'r 18fed ganrif. Roedd y dram芒u yn dilyn llond dwrn o blotiau sylfaenol ac roedd actorion yn tynnu ar ddigwyddiadau cyfredol wrth addasu eu dialog a'r hyn a oedd yn digwydd. fel ysbrydoliaeth, mae'r clip hwn o waith y National Theatre yn dangos y siapiau corfforol mae rhai cymeriadau yn eu defnyddio.
Mae'n debygol y bydd y gwaith y byddi di'n ei wneud yn fwy cyfyngedig. Efallai y bydd y trais neu'r hud yn cael ei gyfleu'n ofalus drwy symudiad mewn drama Shakespeare. Neu os byddi di鈥檔 perfformio comedi, gallet ti ddefnyddio symudiad fel nodwedd cymeriad, gan gymryd dy ysbrydoliaeth o'r commedia dell鈥檃rte. Gallet ti ddefnyddio dy gast i greu ac adeiladu llawer o ymdeimlad ac awyrgylch dy ddarn yn ogystal 芒鈥檙 set.