Defnyddio Theatr Gorfforol yn dy gynhyrchiad
Mae modd defnyddio Theatr Gorfforol yn y ffordd y cafodd ei defnyddio gan y cyfarwyddwr Steven Berkoff yn The Trial, i osod yr olygfa, boed ar gyfer dodrefn mewn ystafell neu stryd brysur. Mae defnyddio pobl i greu popeth ar y llwyfan yn caniat谩u cyfleoedd gwych ar gyfer effaith ddynamig. Yn The Trial, y cast, fframiau syml iawn a rhaff ar ardal berfformio wag oedd y cyfan a ddefnyddiwyd i greu'r llwyfannu. Byddai llwyfan gwag yn ddelfrydol i rai perfformiadau Theatr Gorfforol.
Dychmyga gynhyrchiad o ddrama Shakespeare, Macbeth. Fel arfer rydyn ni'n clywed am y frwydr ar ddechrau'r ddrama. Sut fyddai gweld yr ymladd yn effeithio ar y cynhyrchiad? Gallai hyn fod mewn dull arddulliedig, gyda鈥檙 gwrachod yn amlwg yn rheoli'r digwyddiadau fel pe baen nhw'n bypedwyr. Canmolwyd cynhyrchiad Kenneth Branagh o Macbeth yn 2013 am ei natur gorfforol, yn enwedig yn ystod golygfa'r frwydr ar ddechrau'r ddrama.
Cyfuno arddulliau drama
Mae Theatr Gorfforol yn canolbwyntio ar symud ond gall fod ar wah芒n i鈥檙 gair llafar neu uno 芒'r gair llafar i ehangu ac ymchwilio i鈥檞 ystyr. Gall fod yn dyfeisiedigDarn o waith gwreiddiol sydd wedi ei greu drwy ymarfer. Yn aml yr actorion sy鈥檔 llywio'r gwaith yn hytrach na'r cyfarwyddwr. neu gynnwys elfennau sylweddol y tu hwnt i sgript wedi ei argraffu. Gallai'r elfennau hyn fod yn ffurfiau celfyddydol eraill megis cerddoriaeth, dawns, defnydd o gyfryngau neu ddelweddau gweledol. Rwyt ti鈥檔 gallu defnyddio propiau sy鈥檔 gweddu i natur y cynhyrchiad hefyd. Mae gwisgo mwgwd yn ffordd dda o ymarfer technegau Theatr Gorfforol oherwydd rhaid i ti weithio dy gorff yn effeithiol i wneud yn iawn am y diffyg mynegiant pan fydd dy wyneb wedi ei guddio. Felly gallet ti ddefnyddio cyfuniad o elfennau gyda鈥檙 sgript. Beth am estyn allan at y gynulleidfa mewn ffordd sy'n herio'r bedwaredd wal, gan wneud y gynulleidfa yn gyd-gynllwyniwr yn y ddrama? Dydy hi ddim yn anarferol i Theatr Gorfforol annog neu fynnu cyfranogiad gan y gynulleidfa.
Roedd cynhyrchiad amlieithog y Theatr Genedlaethol, Rhwydo/Vangst, yn ddarn o Theatr Gorfforol wahanol i'r arfer. Roedd y cynhyrchiad yn defnyddio cyfraniadau gan aelodau o'r cyhoedd a oedd wedi nodi eu gobeithion a'u hofnau a'u 'postio' i flwch cyn y perfformiad. Yna roedd y cynnwys hwn yn cael ei drosglwyddo i recordiad sain a gafodd ei chwarae wrth i'r ddau berfformiwr, yr artist meim Anne van Balen a'r dawnsiwr, Fabi谩n Santarciel de la Quintana, roi perfformiad mud yn y blwch. Roedd y cyfle i gyfrannu'n uniongyrchol at y cynhyrchiad yn cyffroi cynulleidfaoedd mewn nifer o wledydd.