Profi dealltwriaeth o Theatr Gorfforol
Question
Dychmyga fod y gwaith dyfeisiedig rwyt ti'n ei wneud yn seiliedig ar y syniad o straeon chwedlonol mewn lleoliad modern. Mae dy gr诺p wedi dewis stori BranwenBranwen ferch Ll欧r ydy ail gainc y Mabinogion. Mae hi'n priodi Matholwch, brenin Iwerddon. Mae ei brawd, y cawr Bendigeidfran, yn gorfod arwain ei filwyr o Gymru i Iwerddon i'w hachub. o'r MabinogionCasgliad o stor茂au sydd i'w gweld mewn llawysgrifau Cymraeg o'r Canol Oesoedd. Maen nhw'n tynnu ar fytholeg Geltaidd a thraddodiadau o'r Oesoedd Canol cynnar. ac yn arbennig y llinell hon:
Gwelsant goedwig yn y m么r yn symud tuag Iwerddon, a mynydd mawr yn symud yn ei hymyl, a llyn bob ochr iddi.
Pa effeithiau fyddet ti'n gallu eu creu gyda Theatr Gorfforol?
Gallai'r actorion bortreadu'r 'goedwig' yn y m么r i ennyn ofn a disgwyl yn y gynulleidfa. Gallen nhw wneud hyn drwy symud yn araf ac yn gynnil yn agosach ac yn agosach at yr actorion sy'n portreadu Matholwch a'i ddynion. Byddai'n rhaid bod yn ofalus i beidio 芒 throi'r holl beth yn gomedi felly dylai symudiadau corfforol y cymeriadau sy'n chwarae'r coed fod yn gynnil. Er enghraifft gallai un symud ychydig bach i'r chwith gyda鈥檙 lleill yn ei ddilyn fesul un. Gallai Matholwch a'i ddynion weld y symudiad ond ar y cychwyn gallen nhw feddwl bod eu llygaid yn eu twyllo wrth i'r 'coed' lonyddu ac ymdebygu i ddelwau.
Gellid dehongli'r cawr Bendigeidfran hefyd drwy Theatr Gorfforol. Pan fydd yn penderfynu troi'n bont i'w ddynion allu croesi鈥檙 afon, mae hyn yn gyfle da i symud yn fecanyddol. Mae cyfle hefyd yn yr olygfa ddramatig pan fydd Gwern yn cael ei daflu i'r t芒n. Byddwn yn defnyddio actorion i bortreadu'r fflamau. Os ydy lleoliad y perfformiad yn un modern, er enghraifft, mewn yst芒d o dai trefol, gallai fod yn alegoriStori neu gerdd sydd ag ystyr cudd (sydd fel arfer yn wleidyddol). o esgeulustod neu gamdriniaeth.