Technegau Theatr Gorfforol
Mae cryfder craidd yn bwysig iawn ac yn dy alluogi i wneud i dy gorff weithio i greu effeithiau Theatr Gorfforol.
Os mai'r corff ydy offeryn cerdd yr actor, sut galli di gynhyrchu cerddoriaeth Theatr Gorfforol? Pa dechnegau ddylet ti eu hystyried?
- Meim 鈥 Symudiad arddulliedig ydy hyn fel arfer ond gall fod yn gymharol realistig.
- Ystum 鈥 Gall ystum fod yn rhywbeth bach ond gall gael effaith emosiynol neu gall fod yn symudiad penodol sy'n diffinio cymeriad.
- Statws - Gellir dangos hyn gyda lefelau, pellter neu gryfder cyswllt, neu gyfuniad o'r rhain i gyd gyda gwaith llais.
- Agosrwydd 鈥 Mae pa mor agos y byddi di at dy gyd-berfformwyr neu ba mor bell y byddi di oddi wrthyn nhw鈥檔 gallu creu effaith bwerus iawn.
- Safiad 鈥 Mae hyn yn gysylltiedig 芒 chryfder oherwydd gall y corff ddangos pendantrwydd ac awdurdod neu wendid drwy'r safiad, gan gynnwys osgo.
- Gerwinder a thynerwch - Defnyddir y rhain yma fel termau ymbar茅l i nodi symudiadau鈥檔 dod at ei gilydd mewn gwaith corfforol i fynegi emosiynau'r darn.
- Symudiad - Mae angen ymarfer pob symudiad yn union.
- Peidio 芒 symud 鈥 Os ydy'r cymeriadau eraill yn symud, gall aros yn llonydd gael effaith bwerus. Gall cyferbyniad llonyddwch fod yn rhan effeithiol o鈥檙 ddrama.
- Gwaith mwgwd - Mae effaith mwgwd yn weladwy a heb nodweddion yr wyneb i ddangos y gweithredu, mae symudiad yn dod yn offeryn perfformio mwy canolog byth.
- Gwaith dawns 鈥 Paid ag ofni cynnwys dawns yn dy waith; does dim rhaid i ti fod yn ddawnsiwr profiadol. Mae lle i symudiadau dawns syml neu gomig mewn Theatr Gorfforol.
- Motiff - Defnydd dro ar 么l tro o batrwm symud ydy hyn ag iddo ystyr ac mae鈥檔 ein hatgoffa o thema ganolog y gwaith.