ý

Theorem Pythagoras – Canolradd ac UwchTheorem Pythagoras mewn 3D - haen uwch yn unig

Mae theorem Pythagoras yn caniatáu i ni gyfrifo hydoedd mewn trionglau ongl sgwâr. Gwelir trionglau ongl sgwâr mewn bywyd bob dydd – o ddimensiynau teledu i ysgol sy'n gorffwys yn erbyn wal.

Part of Mathemateg RhifeddGeometreg a Mesur

Theorem Pythagoras mewn 3D - haen uwch yn unig

Gellir defnyddio theorem Pythagoras i ddod o hyd i hydoedd mewn lleoedd gwag 3D hefyd.

Enghraifft

Mae potyn pennau wedi'i wneud o gwpan silindrog, â diamedr o 7 cm ac uchder o 10 cm.

Cyfrifa hyd isafswm pensil, fel na fydd yn cwympo y tu mewn i'r potyn.

Potyn pennau wedi'i wneud o gwpan silindrog, â diamedr o 7 cm ac uchder o 10 cm

Fel y galli di weld, bydd hyn yn gwneud ongl sgwâr yn y gornel uchaf.

Rydym ni'n ceisio dod o hyd i'r hypotenws felly bydd angen i ni sgwario'r ochrau a'u hadio i gyd at ei gilydd i ddod o hyd i sgwâr yr hypotenws.

P2 = 102 + 72

P2 = 100 + 49 = 149

P = √149

P = 12.20655562

Mae angen i'r pensil fod o leiaf 12.21 cm (i ddau le degol).

Wrth ddefnyddio theorem Pythagoras i ddod o hyd i hydoedd mewn lleoedd gwag 3D, efallai y bydd angen i ti ei ddefnyddio mwy nag unwaith i ddod o hyd i'r ateb terfynol.

Image gallerySkip image gallerySlide 1 of 7, Ystafell siâp ciwboid lle mae ochr EH yn 5 m, mae ochr HG yn 3 m, ac mae ochr CG yn 2.5 m. Mae hyd y BH croeslinol yn anhysbys, Defnyddio theorem Pythagoras mewn lle gwag 3D Mae ystafell siâp ciwboid yn mesur 5 m hyd, 3 m lled a 2.5 m uchder. Cyfrifa hyd y BH croeslinol.