Datblygiad Theatr Gerdd
Wrth i ddram芒u cerdd ddatblygu, daeth y straeon yn gryfach gyda'r caneuon yn cael eu hintegreiddio'n fwy i'r plot. Drama gerdd llyfr (Book Musical) ydy gwaith sy'n cynnwys drama sydd wedi ei datblygu'n dda ac sy'n llwyddo i ysgogi emosiynau eraill ar wah芒n i chwerthin.
Fel arfer bydd drama gerdd llyfr yn cynnwys tair rhan:
- y llyfr (sef y sgript, sy鈥檔 cynnwys y ddeialog a鈥檙 ddrama)
- y gerddoriaeth (wedi ei threfnu ar gyfer nifer o offerynnau o fewn band neu gerddorfa)
- y geiriau (lle mae geiriau鈥檙 caneuon wedi eu hysgrifennu o dan ran y piano)
Gyda鈥檌 gilydd mae鈥檙 geiriau a rhan y piano yn cael eu galw鈥檔 蝉驳么谤. Mae t卯m creadigol mawr yn cydweithio i ddod 芒 drama gerdd llyfr i鈥檙 llwyfan. Mae鈥檙 gwahanol rolau鈥檔 bwysig iawn.
Cyfansoddwyr cynnar
O ddechrau i ganol y 1900au, roedd nifer fach o gyfansoddwyr ac awduron caneuon yn amlwg iawn ym maes Theatr Gerdd. Roedd y gwaith yn gyfrwng ar gyfer eu talentau cyfansoddi caneuon ac yn gyfle i arddangos doniau s锚r mawr yr oes. Cafodd llawer o'r rhain eu troi'n ffilmiau. Roedd y straeon yn llai pwysig na'r caneuon a'r dawnsfeydd ysblennydd. Cynhyrchodd awduron caneuon amlwg y cyfnod nifer fawr iawn o ddram芒u cerdd. Mae llawer o'r caneuon oedd ynddyn nhw mor adnabyddus fel eu bod yn cael eu galw'n ganeuon 'safonol' ac maen nhw'n dal i fod yn boblogaidd hyd heddiw. Mae enghreifftiau'n cynnwys caneuon gan Cole Porter, Irving Berlin a George ac Ira Gershwin.
Mae'r rhaglen radio Saesneg hon yn edrych ar y stori y tu 么l i'r g芒n Let鈥檚 Face the Music and Dance gan Irving Berlin. Mae鈥檔 esbonio pam y datblygodd Theatr Gerdd i fod mor boblogaidd yn ystod y 1930au.