大象传媒

Theatr GerddDram芒u cerdd modern

Mae Theatr Gerdd yn defnyddio caneuon, dawns a deialog i adrodd stori. Mae hanes hir i'r genre poblogaidd hwn ac mae yna rolau arbenigol sydd ynghlwm wrth lwyfannu drama gerdd fodern.

Part of DramaArddulliau, genres ac ymarferwyr

Dram芒u cerdd modern

Mae Theatr Gerdd yn parhau i fod yn hynod o boblogaidd a dyma鈥檙 prif fath o theatr sydd i鈥檞 gweld yn y West End yn Llundain ac ar Broadway. Mae dram芒u cerdd newydd yn ymddangos yn gyson, er bod llawer o glasuron h欧n yn dal i gael eu hadfywio, megis Singin鈥 in the Rain, Miss Saigon ac Oliver! Mae Phantom of the Opera wedi cael ei chynhyrchu mewn dros 150 o ddinasoedd mewn 30 o wledydd. Mae鈥檔 fusnes mawr a chyhyd 芒 bod galw gan gynulleidfaoedd, bydd Theatr Gerdd yn parhau i fod yn iach. Roedd cyfanswm gwerthiant tocynnau鈥檙 West End yn 2012 yn agos i 拢530 miliwn, gyda 拢320 miliwn ohono wedi ei wario ar docynnau sioeau cerdd.

Mae dram芒u cerdd difrifol wedi ymddangos hefyd, yn seiliedig ar gymhlethdodau cymdeithas fodern a phynciau cyfoes, megis Rent am HIV/AIDS. Yn ddiweddar gwelwyd tueddiad i gymryd caneuon canwr penodol a llunio naratif o鈥檜 cwmpas i ffurfio drama gerdd. Dyna ddigwyddodd gyda鈥檙 sioeau cerdd poblogaidd yn y West End, Mamma Mia! (caneuon Abba), We Will Rock You (Queen) a Jersey Boys (Frankie Valli and the Four Seasons).

Pam mae Theatr Gerdd yn dal i fod mor boblogaidd gyda chynulleidfaoedd? Ai oherwydd bod y sioeau yn cynnig dihangfa mewn cyfnod trafferthus? Dywedodd y beirniad Charles Spencer:

Yn 么l fel rwyf i鈥檔 ei gweld hi, nid goroesi鈥檙 dirwasgiad yn unig fydd y theatr, bydd hefyd yn ein helpu ni i鈥檞 ddioddef drwy gynnig yr ymdeimlad arbennig hwnnw o gymuned o gynulleidfa theatr a dihangfa dros dro i fydoedd eraill a bywydau eraill.
The Daily Express, Rhagfyr 2 2013

Related links