大象传媒

Theatr GerddOper芒u Baled ac Oper芒u Comig

Mae Theatr Gerdd yn defnyddio caneuon, dawns a deialog i adrodd stori. Mae hanes hir i'r genre poblogaidd hwn ac mae yna rolau arbenigol sydd ynghlwm wrth lwyfannu drama gerdd fodern.

Part of DramaArddulliau, genres ac ymarferwyr

Oper芒u Baled ac Oper芒u Comig

Roedd rhai ffurfiau o Theatr Gerddorol fel rydyn ni鈥檔 ei hadnabod yn bodoli yn y 18fed ganrif ym Mhrydain; roedd y rhain yn operatig o ran arddull. Roedd dau fath, Oper芒u Baled ac Oper芒u Comig. Roedd gan y rhain sg么r gwreiddiol (cerddoriaeth wedi ei chyfansoddi鈥檔 arbennig) neu roedden nhw鈥檔 benthyg melod茂au poblogaidd y dydd ac yn aml roedden nhw鈥檔 seiliedig ar straeon neu nofelau enwog. Roedd rhai鈥檔 parod茂o gweithiau operatig oedd eisoes yn bodoli. Yr enghraifft enwocaf o Opera Faled ydy The Beggar鈥檚 Opera (Opera Pishyn Tair yn Gymraeg) a ysgrifennwyd ym 1728 gan John Gay. Dyma, ym marn rhai, yw鈥檙 ddrama gerdd gyntaf. Mae鈥檔 enghraifft glir o groesi o un genre i un arall, a chafodd ei thrawsosod gan Brecht a Kurt Weill i greu Die Dreigroschenoper ym 1928. Darllena Theatr Epig a Brecht i ddysgu mwy.

Y dramodydd, Bertolt Brecht yn chwarae gwyddbwyll, 1948
Image caption,
Y dramodydd, Bertolt Brecht yn chwarae gwyddbwyll, 1948 LLUN: Bertolt Brecht, 1948. Time & Life Pictures/Getty Images

Y Neuadd Gerdd

Ym Mhrydain ac yn yr Unol Daleithiau dechreuodd comed茂au cerddorol ddod yn ffurf boblogaidd o adloniant erbyn y 1800au, ochr yn ochr 芒鈥檙 Neuadd Gerdd. Ond tra bo鈥檙 Neuadd Gerdd yn gyfuniad o sgetsus byr a yn cyfuno caneuon comig a darnau鈥檔 sefyll ar eu pen eu hunain, roedd gan opera gomedi cerddorol naratif neu stori glir drwyddi. Roedd y Neuadd Gerdd yn defnyddio j么cs masweddus (yn aml roedd y caneuon yn cynnwys llawer o ystyron mwys anllad) ac roedd yn ffurf gymharol rad a phoblogaidd iawn o adloniant i鈥檙 dosbarth gweithiol ar y pryd.

Ond roedd comed茂au cerddorol yn defnyddio hiwmor mwy soffistigedig ac yn apelio at y dosbarthiadau uwch a chanol. Roedd y straeon a鈥檙 cynnwys yn llawer mwy addas i deuluoedd ac roedd y set a鈥檙 gwerthoedd cynhyrchu鈥檔 goeth o gymharu. Roedd partneriaeth Theatr Gerdd o鈥檙 enw Gilbert a Sullivan yn enwog am gynhyrchu llawer o oper芒u comig a chomed茂au cerdd yng nghanol a diwedd y 1800au. Mae llawer o鈥檙 rhain yn dal i gael eu perfformio heddiw, megis The Mikado, H.M.S. Pinafore a The Pirates of Penzance.

Timothy Spall fel y cymeriad Richard Temple yn y ffilm Topsy-Turvy, 1999, yn sefyll o flaen rhes o ferched geisha yn canu
Image caption,
Timothy Spall yn y ffilm Topsy-Turvy, 1999 LLUN: Ronald Grant Archive

Related links