Adlewyrchiad mewnol cyflawn tonnauAdlewyrchiad mewnol cyflawn a ffibrau optegol
Archwiliad o'r amodau sydd eu hangen ar gyfer adlewyrchiad mewnol cyflawn yw hwn. Mae'n trin a thrafod y defnyddio ffibrau optegol mewn adlewyrchiad mewnol cyflawn at ddiben meddygol a chyfathrebu.
Mae ffibrau optegol yn dibynnu ar adlewyrchiad mewnol cyflawn i weithio.
Rhoden denau o wydr o ansawdd uchel yw ffibr optegol. Mae golau/isgoch yn mynd i mewn i un pen, yn cyflawni adlewyrchiad mewnol cyflawnAdlewyrchiad cyflawn o belydryn golau yn cyrraedd terfyn. Rhaid i ongl y don olau fod yn fwy na鈥檙 ongl gritigol a rhaid i鈥檙 pelydryn golau deithio o ddeunyddiau dwysedd uchel i rai dwysedd is. lawer gwaith ac yn dod allan o'r pen arall.
Sylwa fod y golau'n plygu tuag at y normal wrth fynd i mewn i'r ffibr optegol.
Sylwa beth sy'n digwydd wrth i'r golau daro pen pellaf y ffibr. Mae'r ongl drawiad nawr yn llai na'r ongl gritigol ac felly mae'r golau'n plygu oddi wrth y normal i mewn i'r aer. Efallai y bydd disgwyl i ti gwblhau diagram tebyg i'r un uchod mewn arholiad.
Mae ffibrau optegol yn gweithio hyd yn oed os yw'r ffibr wedi plygu.