大象传媒

Adlewyrchiad mewnol cyflawn tonnauFfibrau optegol mewn meddygaeth

Archwiliad o'r amodau sydd eu hangen ar gyfer adlewyrchiad mewnol cyflawn yw hwn. Mae'n trin a thrafod y defnyddio ffibrau optegol mewn adlewyrchiad mewnol cyflawn at ddiben meddygol a chyfathrebu.

Part of FfisegTrydan, egni a thonnau

Ffibrau optegol mewn meddygaeth

Endosgop

Mae yn defnyddio ffibrau optegol i gynhyrchu delwedd o'r tu mewn i'r corff. Mae meddyg yn gallu mewnosod sypyn o ffibrau optegol yn y corff. Mae rhai'n cludo golau i mewn i'r corff, ac mae eraill yn cludo golau wedi'i adlewyrchu oddi ar arwynebau mewnol y corff yn 么l allan. Mae hyn yn caniat谩u i'r meddyg weld delwedd glir o'r tu mewn i'r corff 鈥 ac yn ei helpu i roi diagnosis o glefydau fel canser, neu i weld beth mae'n ei wneud yn ystod llawfeddygaeth twll clo.

Mae sgan CT yn ffordd arall o gynhyrchu delwedd o du mewn y corff. Mae sganiau CT yn defnyddio pelydrau-X i gynhyrchu delwedd 3D o'r corff.

Efallai y bydd gofyn i ti gymharu defnyddio endosgopau 芒 sganiau CT yn yr arholiad.

Sganiau CT

Mae delweddau pelydr-X traddodiadol yn rhoi golwg dau ddimensiwn (2D) o'r corff o un ongl. Mae hyn yn gallu golygu bod ffurfiadau eraill yn y corff yn cuddio rhai manylion. Mae sganiau (CT) yn golygu llunio ystod o ddelweddau pelydr-X o wahanol safleoedd.

Mae cyfrifiadur yn prosesu'r rhain i ffurfio delwedd dri dimensiwn (3D). Gallwn ni addasu'r ddelwedd hon i weld y ffurfiadau yn y corff ar wahanol haenau ac o wahanol safbwyntiau. Mae hyn yn golygu bod meddyg yn gallu cael llawer gwell dealltwriaeth o beth sy'n bod ar glaf.

Endosgopeg neu sganiau CT

Rydyn ni'n defnyddio endosgopeg i archwilio rhannau penodol o'r corff. Mae'n llai niweidiol na sganiau CT - mae'n defnyddio golau yn hytrach na phelydrau-X. Rydyn ni'n defnyddio sganiau CT i gynhyrchu mwy o ddelweddau cyffredinol o'r corff ac maent yn fwy o risg nag endosgopau oherwydd y ffaith eu bod nhw'n defnyddio pelydrau-X.

Mae priodweddau pelydrau-X yn golygu eu bod nhw'n gallu niweidio'r mewn celloedd. Mae effaith 茂辞苍别颈诲诲颈辞 pelydrau-X yn fwy niweidiol i gelloedd sydd yn y broses o rannu yn y corff. Mae dosiau isel o belydrau-X yn gallu achosi canser - ond mae dosiau uchel yn gallu lladd celloedd canser.