大象传媒

Cymeriadau

Cymeriadau canolog O Ran yw Angharad a鈥檌 theulu agos. yw鈥檙 cymeriadau eraill i gyd er bod ambell un yn bwysig o safbwynt y stori.

Prif gymeriadau

  • Angharad Gwyn
  • Ifan Gwyn (tad Angharad)
  • Anti June (modryb Angharad)
  • Myng-gu (mam-gu Angharad)

Cymeriadau ymylol

  • Yvonne (y ferch ddi-Gymraeg sy鈥檔 byw drws nesaf i Angharad)
  • Mair (ffrind ysgol Angharad)
  • Elena (cantores a chariad Ifan ar adegau)
  • Huw Huws (bachgen ysgol y mae Angharad yn mynd allan gydag ef am gyfnod byr)
  • Geraint Hughes (bachgen ysgol arall y mae Angharad yn cael ei denu ato)

Angharad

Mae Angharad yn blentyn deallus a chraff, ond mae hefyd yn hunanymwybodol, yn ofnus, yn swil ac yn eithafol o sensitif. Wrth iddi fynd yn h欧n mae鈥檔 mynd yn fwy a mwy beirniadol ohoni ei hun ac ar un cyfnod, tra mae hi鈥檔 dal yn yr ysgol, mae hi鈥檔 cael meddyliau tywyll iawn a hyd yn oed yn ystyried ei lladd ei hun. Fel oedolyn hefyd, cawn yr argraff ei bod yn anhapus a鈥檌 bod yn teimlo nad yw ei bywyd yn gyflawn. Ond erbyn diwedd y nofel mae wedi dod yn gryfach person ac yn gallu edrych i鈥檙 dyfodol yn fwy hyderus.

Ifan

Mae Ifan yn 诺r golygus, yn dad cariadus i Angharad, ac yn gerddor dawnus iawn. Ond nid yw鈥檔 yn dda gyda鈥檌 enwogrwydd ac mae hefyd yn iawn 鈥 mae unrhyw feirniadaeth o鈥檌 waith yn ei frifo, ac mae hynny鈥檔 un peth sy鈥檔 gwneud iddo yfed gormod. Gallwn dybio hefyd fod teimladau o euogrwydd am faterion teuluol yn ei gorddi ac yn ei yrru i yfed. Mae鈥檙 alcoholiaeth yn ei ladd yn y diwedd.

Anti June

Mae Anti June yn wraig smart, ffasiynol, ond mae hefyd yn berson ymarferol iawn sy鈥檔 gwneud gwaith t欧 yn gyflym ac yn effeithiol. Mae hi鈥檔 siaradus a hoff o sgwrs. Mae鈥檔 dangos dewrder yn y ffordd y mae鈥檔 delio gyda鈥檌 hafiechyd (mae鈥檔 dioddef o鈥檙 fogfa neu asthma) heb gwyno o gwbl, ond y cyflwr hwnnw sy鈥檔 arwain at ei marwolaeth. Mae ei balchder o Angharad yn amlwg ond dim ond ar ddiwedd y nofel y cawn wybod bod ganddi reswm da iawn i deimlo鈥檔 falch ohoni gan mai Anti June mewn gwirionedd yw mam Angharad.

Myng-gu

Mae Myng-gu, er ei bod yn gwisgo鈥檔 fwy traddodiadol, yn debyg i Anti June mewn rhai ffyrdd, yn ymarferol a llawn egni a phenderfynol iawn. Mae鈥檔 Gristion selog, a hi sy鈥檔 mynd ag Angharad i鈥檙 Ysgol Sul. Mae ganddi synnwyr digrifwch, er enghraifft mae hi鈥檔 gweld yr ochr ddoniol i鈥檙 stori am Angharad yn twyllo鈥檙 athro trwy wneud gwaith mathemateg dau o fechgyn y dosbarth drostynt. Mae鈥檔 credu鈥檔 gryf mewn dal ati 鈥 un o鈥檌 hoff ddywediadau yw 鈥楢m mla鈥檔 ma mynd鈥. Dyna ei geiriau wrth Angharad ar 么l marwolaeth Myfanwy鈥檙 crwban ac ar 么l marwolaeth Anti June.