大象传媒

Perthynas Angharad ac Ifan

Y berthynas ganolog yn y nofel yw perthynas Angharad a鈥檌 thad. Heb frawd, chwaer na mam, ei thad yw鈥檙 person pwysicaf yn ei bywyd. Ef sy鈥檔 ei magu, er bod Anti June a Myng-gu yn helpu llawer ar y ddau. Mae Angharad yn caru ei thad ac mae yntau鈥檔 meddwl y byd ohoni hithau, ond mae ei brysurdeb cynyddol fel cerddor a鈥檌 alcoholiaeth yn bygwth eu perthynas glos.

Agosrwydd

Mae鈥檔 berthynas agos iawn ac mae gan Angharad angen am ei thad er mwyn teimlo鈥檔 ddiogel. Rydyn ni鈥檔 gweld hyn pan mae Angharad yn ferch fach a hithau鈥檔 amser gwely, mae鈥檔 teimlo鈥檔 saff gyda鈥檌 thad.

鈥淎 dyna fi鈥檔 gwbl saff. Yng nghesail Dad. Ar un ochr i mi roedd y pared yn dynn yn erbyn y gwely, ac ar yr ochr arall roedd pwysau Dad yn dynn wrth fy ochr. Arogl cysurus Dad. Mwg pib a sebon col-tar. Fi o dan y cyfnasau, a Dad ar ben y garthen. Ac fel hyn, yn dynn rhwng y dillad gwely, roeddwn i鈥檔 ddiogel.鈥

Yn oedolyn hefyd, mae Angharad yn teimlo鈥檙 un angen am ei thad.

Dealltwriaeth

惭补别鈥檙 ddau yn deall ei gilydd yn iawn, gwelwn enghraifft o hyn pan mae Anti June yn penderfynu rhoi cyrls yng ngwallt Angharad cyn iddi ddechrau yn nosbarth y plant mawr:

鈥淩oedd y ddau ohonom wedi dod i ddeall ein gilydd 鈥 ac Anti June 鈥 yn dda. Gadael iddi hi, a Myng-gu, wneud fel y mynnen nhw tra oedden nhw yn ein t欧 ni, ac wedyn, yr eiliad y bydden nhw鈥檔 troi heibio i ffin y gornel , rhoi popeth yn 么l yn ei le.鈥

Wedi i Angharad orfodi Ifan i dorri ei gwallt, mae Angharad yn meddwl ei bod yn hyll ond mae Ifan yn llwyddo i鈥檞 darbwyllo fel arall.

鈥淭i鈥檔 meddwl mod i鈥檔 hyll, Dad?鈥

鈥淲el, nawr, gad i mi weld.鈥

A chan ddechrau gyda lliw brown diflas fy ngwallt a gorffen gyda鈥檙 clustiau pigog, fe鈥檓 perswadodd i mai fi oedd y ferch harddaf yn y byd i gyd.

Pellter

Nid yw Ifan bob amser yn talu sylw i Angharad gan fod ei feddwl yn rhywle arall. Pan mae Ifan mewn hwyliau drwg mae fel petai鈥檔 mynd i ryw fyd ar wah芒n i鈥檞 ferch, byd lle na all hi ei gyrraedd.

鈥淒oedd Dad ddim wastad mewn hwyliau da. Roedd 鈥檔a adegau pan oedd hi鈥檔 well peidio siarad gyda Dad. Neu鈥檔 hytrach, adegau pan oedd hi鈥檔 amhosib siarad gyda Dad. Adegau pan allwn daeru nad oedd Dad wir yn gwybod fy mod i yno o gwbl. Roedd tamed bach, bach o ofn arna i ar yr adegau hynny.鈥

惭补别鈥檙 pellhau achlysurol rhyngddynt yn dod yn rhywbeth sy鈥檔 digwydd yn fwy aml, mae Ifan yn berson hollol wahanol pan mae鈥檔 cael pwl o hwyliau drwg.

鈥淧an oedd Dad yn bresennol, roedd yn siarad a chwerthin a chanu Bach ar y piano. Pan oedd dad yn dechrau troi鈥檔 absennol, doedd e ddim yn siarad rhyw lawer a byddai鈥檔 ymarfer Rachmaninov a sonatas Beethoven. Pan oedd Dad wedi troi鈥檔 absennol hollol, roedd e鈥檔 gwbl fud ... 鈥