大象传媒

O Ran gan Mererid HopwoodPerthynas Angharad ac Anti June a Myng-gu

Nofel am ferch yn tyfu i fyny yng Nghaerdydd yn y 1970au yw O Ran. Angharad yw cannwyll llygad ei thad ac mae hi鈥檔 meddwl y byd ohono yntau, ond mae gan y ddau eu gofidiau sy鈥檔 bygwth chwalu eu byd.

Part of Llenyddiaeth GymraegNofelau

Perthynas Angharad ac Anti June a Myng-gu

Edmygedd

Yn ferch fach mae Angharad yn Anti June oherwydd ei bod yn gwisgo mor ffasiynol. Gwelwn enghraifft o hyn pan mae Angharad yn bedair oed ac wrth ei bodd yn cael trio esgidiau Anti June:

鈥淩oeddwn i鈥檔 caru sgidie Anti June. Ar y cyfan, roeddwn i鈥檔 caru Anti June. Falle nid cymaint 芒鈥檌 sgidie hi.鈥

Gwrthdaro

Weithau mae Angharad yn teimlo bod Anti June yn busnesu gormod yn ei bywyd, er enghraifft wrth siopa am wisg ysgol nid yw鈥檙 ddwy yn cytuno ar y dewis o ddillad.

鈥淲rth i鈥檙 dydd fynd yn ei flaen, roeddwn i鈥檔 mynd yn fwy ac yn fwy anhapus. Roedd y tiwnics brethyn yn cosi. Roedd y blazer ddu yn edrych fel un bachgen. Roedd y crys chwaraeon yn bigog ac yn galed fel cardbord a鈥檙 sgert ddewisodd Anti June i fi鈥檔 llawer iawn, iawn rhy hir.鈥

Balchder

Mae Anti June yn falch iawn o Angharad, yn enwedig pan gaiff Angharad ei dewis yn dywysoges carnifal Llanbydder. Mae Anti June (a Myng-gu) wrth eu boddau ac yn paratoi鈥檔 ofalus.

鈥... rwy鈥檔 taeru na phwythwyd yr un ffrog briodas gyda chymaint o ofal 芒 ffrog wen tywysoges y carnifal y flwyddyn honno.鈥

Cariad

Mae cariad Anti June at Angharad fel cariad mam a chawn wybod pam ar ddiwedd y nofel. Nid oes modd iddi ei fynegi鈥檔 agored oherwydd y gyfrinach deuluol. Pan fydd pobl yn camgymryd Anti June ac Angharad fel mam a merch 鈥 fel y wraig ar y bws ar ddiwrnod marwolaeth Anti June 鈥 mae Angharad yn sylwi bod Anti June yn hoffi hynny.

鈥淔yddai Anti June byth yn cyfaddef nad hi oedd fy mam i. Yn wir, weithiau gallwn daeru ei bod hi鈥檔 mynd mor bell 芒 chreu鈥檙 camargraff yn fwriadol.鈥

Euogrwydd

Mae teimladau negyddol Angharad am Anti June yn gwneud iddi deimlo鈥檔 euog, er enghraifft ar 么l marwolaeth Anti June, wrth feddwl yn 么l am y sgwrs ar y bws, er nad yw鈥檔 cofio鈥檙 sgwrs yn iawn, mae Angharad yn poeni efallai ei bod wedi ymateb i sylw鈥檙 wraig drwy ddweud, 鈥淪he鈥檚 not my mother.鈥 Mae鈥檙 posibilrwydd iddi wadu mai Anti June oedd ei mam yn poeni Angharad ac mae鈥檔 cofio/dychmygu cymaint yr oedd hynny wedi brifo Anti June:

鈥淟lygaid caredig, clwyfedig Anti June.鈥

Angharad a Myng-gu

Weithiau mae Myng-gu, fel Anti June, yn busnesu gormod ym mywyd Angharad, er enghraifft adeg parti pen-blwydd Angharad yn saith oed:

鈥淩oedd Myng-gu wedi penderfynu. Hi ac Anti June. Doedd dim dewis yn y mater. Roedd yn rhaid imi gael parti pen-blwydd.鈥

Mae Myng-gu yn caru Angharad ac yn barod ei chydymdeimlad pan mae hi鈥檔 drist. Enghraifft dda o hyn yw ar 么l i Myfanwy鈥檙 crwban farw ac yn sgil y twyllo gyda鈥檙 syms yn yr ysgol. Mae Myng-gu yn fodlon mynychu 鈥榓ngladd鈥 Myfanwy er nad yw鈥檔 hoffi鈥檙 syniad o roi angladd Cristnogol i anifail. Y noson honno mae Myng-gu yn mynd i鈥檙 gwely gydag Angharad yn gwmni iddi.

Daw Myng-gu yn ffigwr pwysicach byth ym mywyd Angharad yn ystod ei harddegau ar 么l marwolaeth Anti June ac wrth i Ifan fynd yn fwy prysur. Mae Angharad yn penderfynu gofyn i鈥檞 thad a gaiff Myng-gu ddod i fyw atynt, am ei bod hi ei hun yn unig ac yn synhwyro bod Myng-gu hefyd yn unig (er nad yw Angharad yn llwyddo i godi鈥檙 mater yn y diwedd).