大象传媒

Them芒u - twyll

Mae yna sawl math o dwyll, mawr a bach, yn digwydd yn O Ran. Weithiau mae cymeriadau yn eu twyllo鈥檜 hunain, dro arall maen nhw'n twyllo鈥檌 gilydd. Mae鈥檙 nofel hefyd yn gwneud i ni ofyn i ni鈥檔 hunain tybed a ydy twyll ambell waith yn beth derbyniol?

Sut mae thema twyll yn cael ei dangos yn O Ran?

Mae O Ran yn cyfleu thema twyll trwy:

  • stori magu Angharad
  • alcoholiaeth Ifan
  • anffyddlondeb Ifan i Mary

Magwraeth Angharad

Sut mae鈥檙 nofel yn dangos hyn?

Mae Mererid Hopwood yn datgelu鈥檙 twyll yngl欧n 芒 magwraeth Angharad yn agos at ddiwedd y nofel drwy gyfeirio at bennod olaf cyfrol deyrnged Ifan Gwyn. Wrth ddarllen y geiriau a ysgrifennodd Ifan cyn marw, mae Angharad yn darganfod mai Anti June oedd ei mam mewn gwirionedd ac mai dyn priod a dreisiodd Anti June oedd ei thad. Roedd Mary, chwaer Anti June, a鈥檌 g诺r Ifan wedi cytuno i Angharad gael ei chofrestru fel eu plentyn nhw.

Tystiolaeth

鈥淵m mis Medi [1965], ar ei ffordd adre o ddawns ffermwyr ifanc, roedd Anti June wedi cael ei threisio gan was Pantybrenin, Morris Hopkins, ac yn ei chywilydd a鈥檌 hofn, heb ddweud gair wrth neb, aeth y misoedd heibio. Ond o鈥檙 diwedd, ar 么l methu cuddio mwy ei bod hi鈥檔 feichiog, roedd Myng-gu wedi cael gwybod.鈥

Dadansoddiad

Mae magwraeth Angharad yn seiliedig ar gelwydd yngl欧n 芒 phwy yw hi. Er mwyn cadw enw da鈥檙 teulu mae Anti June, Myng-gu, Ifan a Mary wedi twyllo nifer o bobl 鈥 yr awdurdodau adeg cofrestru鈥檙 geni, gweddill eu teulu a鈥檜 cydnabod ar hyd y blynyddoedd, ac Angharad ei hun. Syniad Ifan ei hun oedd y cynllwyn. Mae鈥檙 nofel yn ein gwahodd i ystyried a oedd y teulu ar fai yn gwneud hyn, neu a oedd yn dwyll angenrheidiol a arweiniodd at well magwraeth i Angharad.

Alcoholiaeth Ifan

Sut mae鈥檙 nofel yn dangos hyn?

Mae鈥檙 nofel yn cyflwyno Ifan fel rhywun sydd 芒 phroblem yfed ond sy鈥檔 cuddio鈥檙 broblem rhag pobl eraill ac, yn wir, sy鈥檔 gwrthod cydnabod bod ganddo broblem. Mae ei ymddygiad yn enghraifft o dwyll a hunan-dwyll. Hefyd, mae Angharad a Myng-gu yn cyfrannu at y twyllo trwy geisio cuddio cyflwr Ifan oddi wrth ei gilydd. Nid yw鈥檙 ddwy erioed wedi trafod y mater.

Tystiolaeth

鈥淔el pob alcoholig, gwadu鈥檙 yfed oedd gwraidd y broblem.鈥

Dadansoddiad

Mae Ifan yn alcoholig nodweddiadol yn yr ystyr ei fod yn gwrthod cydnabod ei broblem na gofyn am help. Ond yn fwy cyffredinol, mae鈥檙 nofel yn gwneud i ni ystyried sut mae twyll yn gallu arwain at fwy o dwyll 鈥 mae twyll/hunan-dwyll un person yn gallu arwain pobl eraill o鈥檌 gwmpas i fyw yr un celwydd, rhag gorfod wynebu realiti sefyllfa anodd.

Anffyddlondeb Ifan i鈥檞 wraig

Sut mae鈥檙 nofel yn dangos hyn?

Fel yn achos y cynllwyn teuluol, dysgwn am anffyddlondeb Ifan i鈥檞 wraig Mary ar ddiwedd y nofel, trwy ei gyfraniad at y gyfrol deyrnged. Yno mae wedi cyfaddef ei fod yn cael perthynas gyda鈥檙 gantores Elena ar union adeg yr oedd ar fin dechrau bywyd newydd gyda鈥檌 wraig Mary, fel 鈥榯ad鈥 i Angharad.

Tystiolaeth

鈥淎 phan gyrhaeddodd Ifan Gwyn yr Eglwys Newydd, roedd Mary rywsut yn gwybod fod ei lygaid yn llawn secwins, a鈥檌 glustiau鈥檔 llawn llais contralto dwfn. Ac yn ei phryder 鈥 a鈥檌 siom 鈥 collodd ei hanadl. A mogi.鈥 [Er nad yw Elena鈥檔 cael ei henwi yn y darn uchod, gwyddom oddi wrth ddisgrifiadau cynharach ohoni mai hi sydd dan sylw.]

Dadansoddiad

Oherwydd nad yw鈥檙 datgeliad yngl欧n ag anffyddlondeb Ifan i鈥檞 wraig yn dod tan ddiwedd y nofel, does dim cyfle i gael barn Angharad am hynny. Ond mae鈥檙 datgeliad yn gwneud i ni feddwl yn 么l am berthynas Ifan gydag Elena 鈥 rydyn ni'n sylweddoli bod y berthynas yn mynd yn 么l ymhell. Ac mae鈥檙 ffaith fod y twyll yma wedi arwain at farwolaeth Mary yn ein hatgoffa, unwaith eto fod twyll un person yn gallu cael effaith fawr ar bobl eraill.