大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Dinesydd
Cerddwyr Ty'r Cymry Cymdeithas Ty'r Cymry
Hydref 2009
Taith i Fynwent Cathays, sy'n dathlu 150 mlynedd oddi ar ei hagor, oedd cyfarfod cyntaf y tymor ar 9 Medi.
Cyn crwydro'r hen fynwent, aeth y criw i fynedfa Heol Allensbank a mynd at fedd y bardd a'r llenor T Rowland Hughes. Bu farw ym 1949. Cafwyd darlleniadau o'i nofel 'O Law i Law' ac o'i farddoniaeth a'i emynau.

Draw wedyn i fynedfa Heol Fairoak lle'r oedd Philip, un o swyddogion y Cyngor, yn disgwyl. Fe oedd y tywysydd a chanddo st么r o wybodaeth ddiddorol am y cymeriadau o hanes Caerdydd sy'n gorwedd yno. Y man rhyfeddaf oedd bedd coes Samuel Chivers! Fe'i collodd trwy ddamwain ffordd. G诺r o Heol Richmond oedd e, cynhyrchydd finegr.

Dyma rai yn unig o'r beddau hynod, y masnachwyr, y gwleidyddion, y clerigwyr, y bocswyr a'r gw欧r glew a goffeir yn Cathays. Bedd enfawr o wenithfaen coch sydd gan Jonathan Billups a wnaeth ffortiwn ar godi rheilffyrdd. Cofeb wen, yn angylion i gyd, y talaf yn y lle yw un Sidney White. Teulu hwn ddatblygodd ffeiriau'r Barri a Phorthcawl.

William Tatem wedyn oedd un o brif berchnogion llongau Caerdydd, ei gofeb ddrudfawr yn cynnwys sawl angor. Daeth yn Farwn Glanely ar gyfrif ei gefnogaeth i'r Rhyfel Mawr. Masnachwr coed ac ymgyrchydd yn erbyn caethwasiaeth oedd John Bachelor. Gwelir cerflun iddo, 'The Friend of Freedom', ar yr Ais.

Safwyd wrth fedd un o weinidogion y Tabernacl, y Parchedig Charles Davies, a'i briod. Bedd anferth yn adran yr Eglwys Gatholig sydd gan yr Esgob Hedley ac, wrth ei draed, gorwedd y paffiwr Jim Driscoll, 'Peerless Jim'. Ymysg beddau' r Protestaniaid, mae un Jack Peterson, hefyd yn gynbencampwr pwysau plu'r byd.

Stori hynod oedd honno wrth fedd Ernest Willows a roddodd ei enw i ysgol, stryd a thafarn yn y dre. Collodd ei fywyd yn ifanc wrth hedfan mewn bal诺n aer poeth. Ifancach eto, yn bedair ar ddeg, claddwyd Louisa Maud Evans a gollodd ei bywyd pan suddodd bal诺n awyr yn y sianel. Dod i Gaerdydd o'r Alban wnaeth Frances Batty Shand a'i brawd, i weithio ymysg y deillion. Gadawodd hi arian i Sefydliad y Deillion ar Heol Casnewydd. T欧 Shand yw'r enw ar yr adeilad.

Diolch i Philip Amphlet a'r Cyngor am agor y fynwent i ni ac am wledd o wybodaeth.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy