大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Dinesydd
Bryn Terfel Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd
Mawrth 2008
S锚r ac enwogion yng nghyngherddau'r Eisteddfod.
Bydd Eisteddfod Genedlaethol Gaerdydd a'r Cylch yn agor yn swyddogol ar nos Wener, Awst 1af gyda chyngerdd TRI10 sef cyfle i ddathlu addysg Gymraeg yng Nghaerdydd a phenblwyddi arbennig y ddwy ysgol uwchradd.

Nos Sadwrn, Awst 2ail cynhelir noson gerddoriaeth amrywiol gan Gorau a Bandiau Ysgolion Uwchradd Caerdydd a'r Fro gyda'r Gymanfa Ganu draddodiadol, o dan arweiniad Alun Guy, yn dilyn ar nos Sul, Awst 3vdd.

Croesawn Bryn Terfel yn 么l i lwyfan y Brifwyl ar Nos Lun wrth i'r Eisteddfod lwyfannu Offeren Verdi. Yn rhannu'r llwyfan gyda Bryn bydd y soprano Anja Harteros a Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y 大象传媒.

Talwn deyrnged i un o arwyr Cymru ar nos Fawrth, Awst 5ed mewn noson arbennig, Grav - Yma o Hyd. Ymunwch 芒 ffrindiau a rhai o hoff artistiaid Grav wrth i ni ddathlu bywyd cawr o Fynyddygarreg.

Cawn noson o gystadlu ar nos Fercher gan gynnwys Gwobr Richard Burton, unawd sioe gerdd y C么r Ieuenctid dan 25 a llawer mwy. Yna ar nos Iau cynigir dewis o 2 gyngerdd: yn Neuadd Dewi Sant cewch gyfle i fwynhau Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru o dan arweinyddiaeth Arwel Hughes tra bydd y pafiliwn dan ei sang gyda rhai o s锚r mwyaf Cymru yn llwyfannu noson yr C Factor gyda Connie Fisher, Cerys Mathews, Shan Cothi, Catrin Finch, Caryl Parry Jones a Ch么r Cantorion.

Cynhelir cystadleuaeth y Corau cymysg ar Nos Wener ac yna i gloi'r wythnos cynhelir cyngerdd c么r yr eisteddfod gyda Karl Jenkins yn arwain yr ail hanner wrth i'r c么r berfformio un o gyfansoddiadau'r cyfansoddwr o Benclawdd, Dewi Sant. Mae'n addo bod yn ddiweddglo bythgofiadwy gan fod y c么r yn ymgorfforiad o nifer o brif gorau'r ddinas gan gynnwys: Cantorion Creigiau, Caerdydd; C么r Merched Canna, c么r Meibion TA, C么r Polyffonig Caerdydd, C么r Philarmonig Caerdydd, C么r Ardwyn, C么r Caerdydd ynghyd 芒 nifer o bobl sydd wedi ffurfio c么r arbennig ar gyfer yr Eisteddfod.

Mae tocynnau ar gyfer yr holl berfformiadau yma ar gael o Swyddfa'r Eisteddfod drwy ffonio 0845 122 1176 neu ewch ar lein. Os am fanylion pellach cysylltwch 芒'r Swyddfa am gopi rhad ac am ddim o'r Llyfryn.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy