Roedd tua 60 o bobl wedi cael y fraint o gael gwahoddiad gan berchnogion 'Paprika', y Cynghorydd Mohammed Sarul Islam a'i bartner busnes, Faiz Belal. Roedd y fwydlen yn cynnig amrywiaeth eang o gig oen i samosa llysieuol a chyri blodfresych. Roedd pob dim yn flasus iawn ac yn tynnu d诺r i'n dannedd! Yn wir, aeth llawer yn o^l am ail blataid! Profiad dymunol oedd gweld croestoriad o bobl o gymaint o wahanol gefndiroedd yn bwyta ac yn cael hwyl yng nghwmni Dirprwy Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Delme Bowen, a agorodd y noson drwy dorri'r ruban a chroesawu t欧 bwyta 'Paprika' yn rhan o fywyd cymdeithasol Caerdydd. Mae 'Paprika' mewn lleoliad delfrydol yn agos i Ganolfan y Mileniwm - yn addas iawn am bryd blasus cyn neu wedi sioe. Gallaf eich sicrhau y cewch groeso cynnes gan y perchnogion a chyfle i flasu yr holl ddanteithion y mae 'Paprika' yn eu gynnig. Iechyd da! Shin Couch
|