Dyma ddechreuad taith fythgofiadwy a ddysgodd lawer iawn i ni i gyd. Glantaf oedd yr unig ysgol o Gymru ac, yn wir, Brydain gyfan a Fynychodd gyfarfodydd blynyddol NHSMUN sef cystadleuaeth Cenhedloedd (Unedig ffug yn Efrog Newydd).
Roedd pob ysgol yn cynrychioli gwlad arbennig yn y gynhadledd. Roedd y mwyafrif ohonom ni'n cynrychioli Kenya ar y pwyllgorau er bod ambell un ohonom yn cynrychioli Togo a'r Deyrnas Unedig. Felly yno, yn Efrog Newydd, bu'n rhaid i ni ddisgyblion chweched dosbarth Glantaf amddiffyn buddiannau y gwledydd. Roedd disgyblion o dros y byd i gyd yn ceisio dod i ryw gytundeb er mwyn datrys rhai o broblemau mwyaf dyrys ein byd. Yn y pwyllgorau trafodwyd nifer fawr o bynciau sy'n effeithio ar wahanol wledydd y byd megis AIDS, rhyfela a thlodi. Buom mewn cyfarfodydd am sawl diwrnod o'r wythnos ond cawsom hefyd gyfle i fwynhau amser rhydd yn Efrog Newydd. Cawsom ymweld 芒'r Empire State Building ac Ynys Ellis, mwynhau y sioe gerdd Chicago yn Broadway a gweld gorymdaith flynyddol G诺yl Sant Padrig. Cawsom amser bythgofiadwy yn Efrog Newydd a phrofiadau gwerthfawr. Hoffem oll ddiolch yn arbennig i'r athrawon a'n hebryngodd ar y daith - Mrs Beca Jones, Mrs Burnhill a Mr Walpole. Rhodri ab Owen
|