Aeth ei theulu i'r wladfa ar ddiwedd y 19eg ganrif, a daeth Veronica i Gymru ym 1997 i ddysgu Cymraeg yng Ngholeg Harlech a Phrifysgol Caerdydd. Tra'n astudio'r iaith cyfarfu 芒'i g诺r Gareth Kiff, sydd yn diwtor iaith yng Nghanolfan Iaith y Brifysgol. Erbyn hyn mae Veronica a Gareth yn byw ym Mharc y Rhath ac mae hi'n gweithio i Gymdeithas P锚l Droed Cymru. Croesawyd Veronica ar ran y ddinas gan y Cynghorydd Freda Salway mewn Seremoni Dinasyddiaeth ar ddechrau mis Hydref, ynghyd 芒 naw dinesydd newydd arall o wahanol gefndiroedd. Cymerodd Veronica ei llw yn Gymraeg, y person cyntaf i wneud hynny yn y brifddinas ac yng Nghymru, o bosib. Meddai Veronica ei bod hi'n falch o allu dathlu'r achlysur yn yr heniaith. "Roeddwn yn gallu synhwyro fy nghyndeidiau ochr yn ochr 芒'm teulu newydd yn y seremoni, ac roeddwn yn hynod o falch o fod yn Archentwraig ac yn Gymraes." Mae Caerdydd yn un o'r awdurdodau lleol cyntaf ym Mhrydain i gynnig seremon茂au dinasyddiaeth ac mae Gwasanaeth Cofrestru'r ddinas yn derbyn dros 600 o geisiadau am ddinasyddiaeth bob blwyddyn.
|