大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Dinesydd
Gareth Bryer Pasport Gareth Bryer
Medi 2006
Dyma golofn misol ym mhapur bro Y Dinesydd sy'n holi Cymry Cymraeg sy wedi symud i'r brifddinas dros y blynyddoedd diwethaf.
Gogleddwr, Gareth Bryer, sy'n cael ei holi y mis yma...

O le wyt ti'n dod yn wreiddiol?
Tremeirchion yn Sir Ddinbych

Ym mha ran o Gaerdydd wyt ti'n byw?
Yn y Rhath

Ers faint wyt ti'n byw yng Nghaerdydd? Symudes i lawr yn mis Medi 2000.

Beth fuest ti'n ei wneud ar 么l symud yma?
Bues i'n byw gartref ar 么l bod yn teithio o gwmpas yr Unol Daleithiau. Penderfynais symud lawr i Gaerdydd i fod yn agosach at fy nghariad, Lowri. Yna dechreuais weithio i British Gas fel dadansoddwr tra roeddwn i'n sgwennu ac ymchwilio yr un pryd ar gyfer rhaglenni radio yn fy amser sb芒r. Pryd symudais i lawr i ddechrau roeddwn i'n byw gyda fy nghefnder, Simon - oedd yn byw yn Nhreganna (yn hen fflat Gary Slaymaker fel mae'n digwydd!) cyn symud i mewn at Lowri ym Mhenylan. Bues i'n rhentu gan fwyaf yn ardal Treganna, ond yn ystod y ddwy flynedd diwethaf mae Lowri a fi wedi prynu t欧^ gyda'n gilydd yn ardal y Rath, ac wedi priodi.

Lle wyt ti'n gweithio erbyn hyn?
Bues i ar brofiad gwaith gyda'r rhaglen Good Morning Wales ar Fedi 11, 2001. Arweiniodd hyn at fwy o brofiad gwaith gyda nhw, cyn i mi gael cytundeb byr dymor gyda'r 大象传媒. A dwi 'di hod yno ers hynny! Dwi 'di bod yn ymchwilydd ar Good Morning Wales, wedi cynhyrchu rhaglen ddogfen ar hanes y Cymry yn Lerpwl, a'r gyfres busnes Wales@work, ac wedi gweithio gyda Betsan Powys ar Panorama, yn trafod obesity a'r r么l sydd gyda busnesau bwyd mawr i'w wneud gyda phlant sy dros eu pwysau. Erbyn hyn dw i'n gweithio ar raglen ffonio-i-fewn Nicola Haywood Thomas ar Radio Wales, sy'n brysur iawn ac yn gam at newyddion byw dw i'n ei fwynhau. Er enghraifft, ein rhaglen ni oedd y gyntaf ar yr awyr ar 么l ymosodiadau y 7fed o orffennaf y llynedd. Hefyd, hi oedd y cyntaf i gael cyfweliad gyda Gareth Thomas ar 么l y newyddion fod Mike Ruddock am ymddiswyddo fel hyfforddwr sgwad Cymru.

Beth wyt ti'n hoffi ei wneud yn dy amser hamdden?
Dwi'n mwynhau bwyta a dwi wedi dysgu coginio, diolch i Jamie Oliver (roeddwn i'n waeth na Glyn Wise pan es i i'r coleg am y tro cyntaf!) Dwi'n hoff o ddarllen, yn arbennig awduron Americanaidd. Dau o fy hoff awduron yw David Mitchell ac yn arbennig Philip K. Dick.

Mae gen i ddiddordeb mawr yn Japan. Roedd mynd yno ar ein mis mel y llynedd yn un o brofiadau gorau fy mywyd (ar 么l y briodas ei hun, wrth gwrs). Dwi'n gwrando llawer ar gerddoriaeth, indie fel Yeah Yeah Yeahs, Zabrinski neu Four Tet, ac indie eraill fel y Killers neu'r Zutons, a soul, gospel a'r blues. Mi wna i wrando ar bob math o gerddoriaeth unwaith, i fod yn onest. Pan fydda i ar wyliau, byddaf yn mwynhau hip hop mewn ieithoedd tramor.

Dwi'n gefnogwr brwd o'r Scarlets ers o'n i'n blentyn ac, yn lwcus i mi, mae'r teulu卢yng-nghyfaith yn gefnogwyr selog hefyd. Mae hyn wedi helpu iddynt dderbyn 'gog' i'r teulu, ac wedi plesio fy nhad-yng卢nghyfraith!

Ar adegau eraill, dwi'n mwynhau chwaraeon, yn arbennig rhedeg. Dwi'n rhedeg rasus 10 milltir Caerdydd ac Abertawe ym mis Medi, a'r hanner marathon yng Nghaerdydd fis Hydref A dw i wrth fy modd hefyd gyda sboncen a beicio mynydd.

Be sy'n gwneud i ti chwerthin?
Pob dim i fod yn onest. Mae pawb yn gwaith yn nabod y s诺n pan dwi'n chwerthin (debyg i Bovcie o Only Fools and Horses, dwi'n meddwl). Dwi'n mwynhau gwylio pobl yn brifo'u hunain trwy redeg i mewn i bethau neu'n syrthio drosodd. Dwi hefyd yn mwynhau puns a practical jokes gwael ac Alan Partridge.

Lle ydi'r mannau gorau i fynd allan yng Nghaerdydd?
Dwi'n hoffi tafarndai fel y City Arms neu dafarndai o gwmpas Treganna neu'r Rhath ayb neu fars fel y Toucan.

Lle ti'n hoffi mynd am wyliau?
Japan! Wel, unrhyw le diddorol: ond dwi'n fwy o berson gwyliau gaeaf yn hytrach na gwyliau traeth. Es i i eirafyrddio am y tro cyntaf eleni, a hoffwn i wneud hyn eto.

Petaet yn cael miliwn o bunnoedd i'w wario ar Gaerdydd, beth fyddet ti'n ei wneud?
Ew, sortio Bws Caerdydd yn un peth! A stopio canol y dre rhag cael ei droi i le sy'n gorlifo efo siopau cadwyn. Buaswn i hefyd yn rhoi stop ar adeiladu'r fflatiau, tai a swyddfeydd newydd sy'n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd, a rhoi'r arian tuag at godi datblygiadau sy'n llawer iawn mwy diddorol a gwell (neu wella'r adeiladau hanesyddol oedd yna'n barod).

Lle ti'n gweld dy hun mewn deng mlynedd?
Dwn i'm. Yn y bryniau yn rhywle, gyda fflat bach yn Llanelli i wylio'r Scarlets yn chwarae? O, a th欧 yn Japan hefyd!


Cyfrannwch

Junko Salmon, USA
Ble aethoch chi yn Japan? Dw i'n dod ohoni hi yn wreiddiol.


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy