大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Dinesydd
Bae Caerdydd Cynnal g诺yl ger y lli
Medi 2008
Tanio'r dychymyg yw bwriad trefnwyr G诺yl Ll锚n y Lli ym Mae Caerdydd gyda phiano llawr ag Injan Odli.

G诺yl lenyddol ddwyieithog a drefnir gan yr Academi ym Mae Caerdydd yw Ll锚n y Lli. Bydd yn agor ar nos Fercher, 8 Hydref gyda noson o Sgriptiau Sydyn.

Daniel Glyn fydd yn cyflyno doniau rhai o awduron ifainc mwyaf cyffrous y ddinas sef Ceri Elen, Huw Foulkes, Lleucu Si么n, Elis Gomer a Gwilym Dwyfor.

Tro'r beirdd fydd hi yn Y Gig Cymysg, pan fydd Iwan Rhys, Lois Barrar a Rhys Iorwerth yn serennu mewn noson ddwyieithog, aml gelfyddydol ar y cyd 芒 PoetryFilm. I gloi'r noson bydd Derwyddon Dr Gonzo yn chwarae set fyw.

A oes lle i lenyddiaeth fel arf gwleidyddol? Dyma un o'r cwestiynau fydd Betsan Powys yn ei holi mewn trafodaeth yn Nh欧 Hywel gyda Catrin Dafydd, Dyfrig Jones a Dewi Prysor.

Uchafbwynt yr 诺yl fydd dadorchuddio Yr Injan Odli, creadigaeth Cymdeithas y Rhyfeddod a gomisiynwyd gan yr Academi yn arbennig ar gyfer yr 诺yl. Sut mae esbonio'r Injan unigryw?

Bydd 24 o feirdd amlwg yn creu cwpled ar y thema 'Beth yw Dychymyg?' ac yn cael eu recordio yn adrodd y llinellau hyn. Yna, bydd pob cwpled yn caei ei danio gan gliced arbennig ar ffurf piano llawr, gyda'r gynulleidfa'n taro'r nodau.

Y bwriad yw y gall unrhyw gwpled wneud synnwyr drwy ddilyn cwpled arall, gyda'r beirdd yn ymateb i'w gilydd ar hap. Felly, bydd cerdd newydd yn cael ei chreu drwy ddefnyddio cyfuniadau damweiniol o'r cwpledi gan feirdd yn cynnwys Mererid Hopwood, Gwyn Thomas, Hywel Griffiths, Sian Northey a T James Jones.

Cynhelir digwyddiadau yn siop lyfrau Borders yng nghanol y ddinas yn ystod yr awr ginio - Tamaid o L锚n gydag awduron fel Joanna Davies.

Gallwch hefyd edrych ymlaen at weithdy tecstlynion Eurig Salisbury, sesiwn blogio a gweithdy Mererid Hopwood ac Addysg y Cyfryngau Cymru gyda' r Sgwadiau Sgwennu.

Dim ond rhagflas yw hyn o'r arlwy i ddod. Mynnwch gopi o'r rhaglen lawn a rhagor o wybodaeth drwy gysylltu 芒'r Academi: 029 2047 2266 / post@academi.org


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy