Eleni mae'r Urdd yn cynnig math hollol newydd o Eisteddfod gyda'r safle gwych yn y Bae "yn cynnig profiad unigryw i bawb." Canolbwynt yr 糯yl wrth gwrs fydd Canolfan y Mileniwm, gyda'r maes yn ymestyn i'r ardal o gwmpas y ganolfan ac i'r adeiladau cyfagos.Mae pob Eisteddfod yn unigryw ac yn cynnig profiadau ac awyrgylch gwahanol. Gall neb wadu na fydd y Steddfod eleni yn hollol wahanol i eisteddfodau'r gorffennol. Gall y gwahaniaeth rhwng y safle eleni a'r Eisteddfod lwyddiannus Ynys M么n y llynedd ym mhegwn gogleddol Cymru gyda'i sied ffowls' a'i maes gwyrdd, gwledig ddim bod yn fwy trawiadol.
Fel rhan o'r drefn newydd, mae'n debyg y bydd y Steddfod yn ymweld 芒 Chaerdydd yn gyson bob pedair blynedd wrth i'r Urdd fanteisio i'r eithaf ar y cyfleusterau sydd ar gael iddi yn ei chartref newydd yn y Bae.
Newid arall eleni yw mai'r Urdd yn ganolog yn hytrach na phwyllgorau lleol sydd wedi ysgwyddo'r cyfrifoldeb am drefnu'r Eisteddfod. Mae'n amlwg fod trefniadaeth o'r fath yn esgor ar broblemau newydd hefyd. Rhai wythnosau yn 么l codwyd nyth cacwn go iawn pan benderfynodd nifer o ysgolion yng Nghaerdydd beidio a chystadlu mewn dwy gystadleuaeth lefaru oherwydd testun a natur y cerddi a ddetholwyd. Mynegwyd y farn y byddai panel lleol wedi bod yn fwy ystyrlon ac na fuasai trafferth o'r fath wedi codi.
Eleni hefyd cynhaliwyd rhai cystadlaethau, yn cynnwys y cystadlaethau gymnasteg rai wythnosau yn 么l yn Aberystwyth. Canlyniad hyn yw bod yr Urdd wedi amddifadu rhai cystadleuwyr, nifer ohonynt yn ddysgwyr o'r cyfle i fwynhau'r bwrlwm sy ynghlwm ag wythnos yr Eisteddfod.
Mae'r broliant yn cyfeirio at yr Eisteddfod fel "un o uchafbwyntiau blwyddyn gelfyddydol y genedl". Tybed a yw'r Urdd yn canolbwyntio gormod ar y llwyfan ac yn ceisio symud unrhyw beth, nad sy'n 'gelfyddydol' i'r ymylon?
Newidiwyd trefn cystadlu yn y cystadlaethau Celf Crefft a Dylunio hefyd. Am y tro cyntaf ers yr wythdegau, penderfynwyd mai y buddugol yn unig oedd yn cael symud ymlaen o'r Eisteddfod Sir i'r 'Genedlaethol'. Mae'n amlwg mai am resymau sydd 芒 dim i'w wneud 芒 chelf y gwnaethpwyd y penderfyniad hwn. Y canlyniad fydd, nid yn unig amddifadu nifer o blant o'r cyfle i gystadlu ar lwyfan ehangach na'r un sirol ond hefyd gwanhau cynnwys yr arddangosfa - prif lwyfan celf, os nad yr unig un bellach, i blant Cymru.
Diddymwyd un gystadleuaeth i blant ag anghenion addysg arbennig hefyd. Mae'r adran hon wedi bod yn rhan o drefn yr Urdd ers o leiaf dwy ddegawd. Mae'n hen bryd felly i ail-edrych ar y maes sensitif hwn. Os fydd y penderfyniad hwn yn esgor ar drafodaeth fwy ystyrlon ac ehangach yna mae'r penderfyniad i'w groesawu.
Mae'n naturiol i Gyngor y Ddinas gefnogi g诺yl o'r fath yn enwedig gan fod yr 诺yl yn llithro i mewn yn hwylus i ddathliadau canmlwyddiant Caerdydd fel dinas.
Mae hyd yn oed arddangosfeydd yng nghanolfan Ymwelwyr Bae Caerdydd sydd wedi ei leoli yn Y Tiwb' wedi eu 'hailwampio' yn arbennig ar gyfer y Steddfod. Fe fydd y map pren mawr o ardal y Bae yn cael ei ddiweddaru i gynnwys safle'r pentref chwaraeon arfaethedig, Canolfan y Mileniwm a nifer o ddatblygiadau eraill. Hefyd "ailwampiwyd yr arddangosfeydd, gan roi pwyslais arbennig ar arddangosfa Ail Ryfel Byd"!
Mae'r Urdd yn wynebu croesffordd yn hytrach na ffordd newydd didramgwydd. Wrth i'r Urdd edrych ymlaen i'r dyfodol mae angen datblygu, arloesi a defnyddio'r adnoddau campus yn y Bae i'r eithaf. Mae'n rhaid hefyd i'r Urdd barchu nodweddion gorau'r Eisteddfod a pheidio a throi cefn ar lwyddiannau'r gorffennol. Peidiwch a chael eich dallu gan oleuadau llachar y ddinas.
Does neb am weld yr Eisteddfod yn mynd i lawr y 'tiwb'.
Nid oedd enw awdur ar waelod yr erthygl hon ym mhapur bro Y Dinesydd.