大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Hogwr
Murlun ym Mhontypridd Yr Anthem Genedlaethol
Hydref 2006
Ym mis Medi gwelwyd arddangosfa yn Neuadd y Cyngor, Maesteg, i ddynodi'r ffaith mai yn festri hen gapel Tabor y canwyd ein hanthem Genedlaethol yn gyhoeddus am y tro cyntaf.
Glan Rhondda oedd enw'r g芒n ar y pryd. Y gantores oedd Elizabeth John, merch 16 oed o `Mill Street', Pontypridd.

Yn yr arddangosfa ceir ychydig o hanes Evan James (Ieuan ap Iago) a'i fab James (Iago ap Ieuan) o Bontypridd. Yn 么l Taliesin James, 诺yr Evan James, y mab a gyfansoddodd yr alaw yn 1856 a'r tad a ysgrifennodd y geiriau. Cyflwynwyd y llawysgrif gwreiddiol gan Taliesin Williams, mab James James ac 诺yr felly i Evan James, i'r Amgueddfa Genedlaethol. Mae'r llawysgrif bellach yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Yn 么l y 'Bywgraffiadur Cymraeg' cynhwyswyd yr alaw o dan yr enw 'Glan Rhondda' gan Thomas Llywelyn (Llywelyn Alaw), Aberd芒r ac Aberpennar, mewn casgliad o alawon Cymreig nas cyhoeddwyd, a anfonodd ef i gystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Llangollen, 1858 (y mae MS casgliad 'Llewellyn Alaw' yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru).

Cynganeddwyd yr alaw gan John Owen (Owain Alaw), beirniad y gystadleuaeth, ac fe'i cynhwysodd yn nhrydedd gyfrol 'Gems of Welsh Melody', 1860. Canwyd hi yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth, 1865 gan Kate Wynne, a'r flwyddyn ddilynol gan Llew Llwyfo (Lewis William Lewis), a oedd yn enwog yn ei ddydd, yn Eisteddfod Genedlaethol Caer.

Yn 么l yr Athro Hywel Teifi Edwards cynhwyswyd y g芒n yn rhaglenni Eisteddfodau Cenedlaethol y bedwaredd ganrif ar bymtheg fel 'Eisteddfod Song'.

Diddorol yw sylwi wrth fynd o amgylch yr Arddangosfa fod Taliesin Williams, sef 诺yr Evan James, wedi ei hyfforddi ar y delyn yn y Coleg Brenhinol yn Llundain gan John Thomas 'Pencerdd Gwalia', un a anwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn 1826. Hefyd fod Mrs Barbara Jenkins, gorwyres i Taliesin Williams, yn byw ar hyn o bryd ym Mynydd Cynffig. Mae'n amlwg fod llawer o'i hymchwil i hanes y teulu James i'w weld yn yr arddangosfa.

Gwelir hefyd luniau o'r hen Dabor a hefyd o weinidogion yr eglwys. Agorwyd y capel ar Dachwedd 4 1840 ac fe'i caewyd ar Orffennaf l8 1908 gan fod yna gapel newydd yn dwyn yr un enw wedi ei adeiladu yn Commercial Street. Mae'r capel hwn bellach hefyd wedi ei gau ac ar hyn o bryd mae' n cael ei addasu i fod yn fflatiau.

Gweinidog cyntaf yr Hen Dabor oedd y Parchg. David Phillips a bu yno hyd 1873. Dilynwyd ef gan y Parchg. Lewis Jones (1874 - 1882) a'r Parchg. William Thomas (1887-1908).

Yn rhan o'r arddangosfa mae cop茂au o gynlluniau pensaern茂ol pan addaswyd y capel gwreiddiol i fod yn Neuadd Ymarfer (Drill Hall) yn y flwyddyn 1913. Yn 1936 fe'i prynwyd gan Glwb y Gweithwyr ac y mae wedi bod yn ei meddiant ers hynny.

Ar y Sul cyntaf o Hydref dadorchuddir plac i ddynodi'r ffaith ar safle Hen Gapel Tabor am 2.00 o'r gloch y prynhawn. Yn dilyn am 3.00 o'r gloch cynhelir cyngerdd yn Neuadd y Dref., Maesteg, gyda chorau'r ardal yn cymryd rhan. Ni chodir t芒l am fynediad i'r gyngerdd.

Deellir fod yr aelod seneddol Huw Iranca Davies wedi bod ynghlwm gyda'r trefniadau i ddadorchuddio'r plac. Dylid nodi ei fod yn anfon ei blant i Ysgol Gymrag Cynwyd Sant, Maesteg.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy