大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Hogwr
Richard gyda thlws y Rownd Derfynol Dysgwyr brwdfrydig Porthcawl
Medi 2006
Mae rhai o ddysgwyr Cymraeg ardal Porthcawl wedi od yn llwyddiannus iawn yn ddiweddar ...
Estynnwn ein llongyfarchiadau i Richard Howe ar ddod yn un o'r pedwar olaf yn rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn. Cynhaliwyd y noson yn Neuadd y Brangwyn ar nos Fercher y 5ed o Awst. Arweiniwyd y noson yn feistrolgar iawn gan Si芒n Thomas, sydd yn lais cyfarwydd iawn i wrandawyr Radio Cymru.

Er na lwyddodd Richard i ennill y tlws am Ddysgwr y Flwyddyn roedd yn bleser bod yno i wrando arno yn rhannu ei brofiadau o ddysgu'r Gymraeg mewn iaith raenus ac yn ei ddull diymhongar ei hun.

Llongyfarchiadau hefyd i Richard am ennill y Tlws Rhyddiaith yn Adran y Dysgwyr am ei ddarn o ryddiaith ar y testun "S锚r". Gallwch ddarllen ei waith yn y Cyfansoddiadau ac mae'r feirniadaeth hefyd yn werth ei darllen. Pob lwc iddo i'r dyfodol.

John PearmanJohn Pearman
Llongyfarchiadau iddo ar ddod yn ail yn y gystadleuaeth "Dweud eich Dweud" i ddysgwyr trwy ddweud ei ddweud am gorau Meibion Cymru. Yng ngeiriau un o'r beirniaid "'roedd yn araith bwerus, yn gyfuniad o ddiwydiant a diwylliant". Ein Corau Meibion Cymraeg - beth am y dyfodol?

Rwy'n sicr y byddai llawer ohonom yn cytuno bod cerddoriaeth a chanu wedi chwarae rhan bwysig yn ein bywydau. O ddyddiau ysgol hyd yn henoed rydym yn mynegi ein hunain trwy gerddoriaeth - lleisiau hapus plant yn gymaint ag mewn s诺n cyfoethog ein corau cyfundebol.

Seiliwyd ein Corau Meibion Cymreig ar hen draddodiadau ein gwlad, ac ar gymdeithas bro. Sefydlwyd hwy mewn cyfnod pan oedd ein heglwysi a'n capeli yn llawn, a'r rhan fwyaf o'n dynion yn gweithio mewn diwydiannau trwm. Erbyn heddiw mae'r cynulleidfaoedd yn denau iawn ymhobman a bron pob un o'r hen byllau glo, chwareli llechi, a'r gweithiau dur a thunplat wedi cau.

O'r herwydd mae nifer o aelodau ein Corau Meibion wedi lleihau. Os edrychwch ar unrhyw G么r ar lwyfan, prin iawn yw nifer aelodau o dan chwe deg oed, ac mae'r sefyllfa hon yn mynd yn waeth bob blwyddyn.

Yn fy marn i dylsen wneud rhywbeth yngl欧n 芒'r sefyllfa a hwyrach, mai'r ateb yw uno'r miwsig traddodiadol gyda'r miwsig ysgafnach. Gall ein Corau Meibion Cymreig ymfalch茂o yng ngosodiadau traddodiadol ein hemyn-donau - ARWELFA; CWM RHONDDA; GWAHODDIAD; LAUDAMUS; LLANFAIR ac yn y blaen. Mae'r tonau hyn wedi creu brwdfrydedd a balchder, ond fel mae'r emynau hyn wedi cyffwrdd 芒 chalonnau a meddyliau cynulleidfaoedd am fwy na chanrif a hanner, felly hefyd dylai corau y dyfodol ganu darnau newydd er mwyn swyno eu gwrandawyr cyfoes.

(Diddorol iawn oedd clywed Bryn Terfel yn dweud yn yr Eisteddfod Ryngwladol eleni ei fod e'n cynnwys rhai darnau ysgafnach yn ei repertoire).

Sais ydw i, o Ogledd y Cotswolds, Sir Gaerloyw. Des i i Gymru i weithio yn y diwydiant dur, yn Felindre ar safle yr Eisteddfod, a rhaid talu teyrnged i gorau mawr yr ardal hon am eu cyfraniad er boddhad a mwynhad eu cymunedau. Gallwn fod yn sicr o un peth - mae'r Corau Meibion Cymreig yn cynrychioli ein diwylliant a'n hetifeddiaeth - yng Nghymru ei hun a hefyd dramor.

Y mis diwetha bum yn Tseina a Hong Kong gyda Ch么r Meibion Undebol Cymreig (gyda'r arweinydd enwog Alwyn Humphreys). Fel Cymdeithas rydym yn awyddus i fynegi i eraill ein traddodiadau anrhydeddus fel cenedl, ond gwyddom yn dda hefyd ein bod yn ymgymryd 芒'r cyfrifoldeb o hyrwyddo a sicrhau dyfodol y Corau Meibion Cymreig. Byddai'n ergyd drom petasai'n amhosibl i Gymru, yn ystod y blynyddoedd a ddaw gynhyrchu digon o gorau meibion i gyflawni'r alwad fyd-eang amdanynt.

Llwyddiant yn yr arholiadau i'r dysgwyr Ganol dydd ar ddydd Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod roedd pabell y Dysgwyr yn llawn i weld dysgwyr yn derbyn eu Tystysgrifau am lwyddo yn eu harholiadau CBAC. Yn eu mysg roedd nifer o ddysgwyr dosbarthiadau ardal Yr Hogwr. Llongyfarchiadau i chi i gyd. Yn y lluniau gwelir rhai o'r dysgwyr sydd yn mynychu'r Sadwrn Siarad a gynhelir yn festri y Tabernacl Porthcawl.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy