Ym mhlith y dyrfa roedd tua phedwar ugain o gyfeillion o Ddolgellau lle bu'r Parchg. Hywel Richards yn weinidog am dros chwarter canrif ac hefyd llond bws o gyfeillion o ardal Llandysul, bro genedigol Mrs Richards. Braf oedd gweld y capel yn llawn. Y Parchg. J Ronald Williams a fu'n weinidog ar y Tabernacl o 1976 hyd 1979 a agorodd yr oedfa gyda'r alwad i weddi. Darllenwyd rhannau pwrpasol o'r Ysgrythur gan y Parchg. Ifan Wynn Evans a fu'n weinidog arnom yn y Tabernacl o 1981 hyd 1989 a'r Parchg. Andrew Lenny a fu'n aelod selog ac yn ddiacon yn y Tabernacl cyn cael ei alw i'r weinidogaeth llawn amser yn 1987. Y Parchg. W.J. Edwards, Un o gyfeillion coleg y Parchg. Hywel Richards a offrymodd y weddi. Rhoddwyd hanes yr alwad gan Mrs Gwerfyl Thomas, ysgrifennydd y Tabernacl, sefydlwyd y gweinidog newydd gan y Parchg. Robin Samuel, cyn-weinidog y capel ac offrymwyd gweddi'r sefydlu gan y Parchg. Gareth Morgan Jones, un arall o gyfeillion coleg y Parchg. Hywel Richards. Cyflwynwyd y gweinidog i'w ofalaeth newydd gan Mr John Roberts ar ran Gofalaeth Dolgellau a gan y Parchg. A Wayne Hughes ar ran Cyfundeb Meirion. Estynnwyd croeso iddo gan Mr D Hugh Thomas ar ran y Tabernacl, gan y Parchg. Ddr Alun Tudur ar ran Cyfundeb Morgannwg a gan y Parchg. Euros Miles ar ran eglwysi cylch Pen-y-bont. Pregethwyd gan y Parchg. Ddr Noel A Davies, g诺r 芒 chysylltiad agos 芒'r Tabernacl gan iddo bregethu ei bregeth gyntaf un yno pan yn llanc ifanc. Yr organydd yn ystod yr oedfa oedd Mr Alwyn Samuel a llywyddwyd y cyfarfod gan y Parchg. Robin Samuel, cyn-weinidog y Tabernacl. Wedi'r oedfa darparwyd te ar gyfer y llu ymwelwyr a chyfeillion yn y Neuadd ac arbennig o braf oedd gweld pawb yn mwynhau'r bwyd a'r gwmn茂aeth. Bu sawl cynnig gan eu gyn-aelodau i'r gweinidog a'i briod ddychwelyd ar y bws i Ddolgellau ond braf yw dweud na fanteisiwyd ar y cynigion hynny. Ein gobaith yw y byddant yn ymgartrefu' n hapus yn ein plith ym Mhen-y-bont ac edrychwn ymlaen at gyfnod llewyrchus a bendithiol yn y Tabernacl dan weinidogaeth y Parchg. Hywel Wyn Richards.
|