大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Hogwr
Y Parchg Dewi Thomas Noson Hwyl yr Hogwr 2007
Rhagfyr 2007
Ar nos Wener y 26ain o Hydref, yn Festri Capel y Tabernacl, Pen-y-bont cynhaliwyd Noson Hwyl yr Hogwr.

Ein beirniad oedd Mr Rhodri Gwyn Jones a chafwyd eitemau gan Ifan a Gwenan Jenkin a'r cyfan yn cael eu llywio yn hwylus iawn gan y Parchg Robin Samuel.

Eleni eto cafwyd noson o chwerthin iachus wrth i'n beirniad dafoli cynyrchiadau pawb yn garedig a hwyliog.

Rhwng y beirniadaethau roedd yn fraint cael gwrando ar eitemau Gwenan ar y trombone ac Ifan ar y piano, heb anghofio cyfraniad eu mam Catrin. Diolch yn fawr i'r tri.

Rhaid llongyfarch pawb fu wrthi yn ddiwyd yn cyfansoddi, heb eich gwaith caled fyddai'r Hogwr ddim yn gallu cynnal y noson.

Yn arbennig llongyfarchiadau gwresog i'r Parchg Dewi Thomas am ennill y Goron. Ei waith yn gorffen stori yn dechrau gyda'r geiriau "Gan bwyll...", ddyfarnwyd y gwaith gorau o'r holl gystadlaethau.

Diolch i swyddogion y Tabernacl am ganiat谩u i ni ddefnyddio eu hadnoddau, maent yn hwylus, yn gyfleus ac yn ganolog i ardal Yr Hogwr. Diolch i Rhodri am gymryd at y gwaith o feirniadu, i'r rhai fuodd yn paratoi cwpaned i ni gael cymdeithasu ar y diwedd, a diolch hefyd i bawb a'n cefnogodd ar y noson.

Y Parchg Dewi Thomas - Enillydd Coron Hwyl yr Hogwr 2007 am orffen stori

"Gan bwyll nawr, paid 芒 chynhyrfu, rhag i ti wneud rhywbeth fyddi'n dyfaru amdano gweddill dy fywyd. Rwy'n deall yn iawn pam dy fod ti mor gymysglyd dy deimladau, ac mewn un ffordd fedra i ddim o dy feio di. Ond eto, rwy'n crefu arnat ti i ymdrechu i goncro dy dymer ddrwg."

Anodd iawn fyddai cael persw芒d ar y mab yma. Roedd e'n ymwybodol gymaint oedd e wedi gweithio dros ei dad, cymaint oedd e wedi gweithio ar y fferm, fel roedd e wedi bwrw ati heb gael cymorth gan neb. Doedd e ddim wedi cwyno mewn unrhyw ffordd ac wedi derbyn yr her, a dyma fe'n ateb ei dad:

"Paid 芒 s么n wrtha i am faddau - mae hynny'n anoddach na dim. Pam ddylwn i faddau iddo fe? Fe ofynnodd am ei siar ac fe gafodd hynny yn ei law cyn mynd a'n gadael ni. A nawr, ar 么l cwympo'n fflat ar ei wyneb mae e eisiau dod n么l i ofyn am ragor wrthym. Na, dad, ana i ddim edrych yn garedig arno fe. Gad iddo fynd i'r diawl. Does dim ne iddo fe yma o'm rhan i."

Safodd y tad yn stond. Trodd at y mab hynaf a dweud: "Clyw ma, hapus a balch dylwn ni fod o'i weld e unwaith eto. Ron i wedi meddwl, efallai, na chlywn ni fyth dim amdano fe mwy. Ond mae e wedi dangos i ni heddiw fod gobaith yn dragwyddol, bod dyfodol eta iddo fe yn ein teulu ni os derbyniwn i e. Rwy'n begian arnat ti, ystyria pa mor anodd mae e wedi bod arno fe. Meddylia faint oedd hi'n olygu iddo fe orfod cyfadde ei ffolineb. Tr茂a feddwl am y cywilydd oedd yn ei deimlo wrth ddod yn 么l. Tr茂a weld bod rhyw elfen o ddaioni yn perthyn iddo fe o hyd."

Cododd y mab o'i gadair, edrychodd i fyw llygaid ei dad ac fe welodd y dagrau'n cronni yno. Rhoddodd ei freichiau o amgylch ei dad a thynnodd e tuag ato i'w anwylo'n glos, ac meddai: "Wyt ti'n gweld, dad, mae hwn yn dy frifo di am yr ail waith wrth ddod yn 么l. Does dim ots ganddo fe am neb, mae e'n rhy hunanol i weld sut wyt ti a fi yn cael ein brifo, sut mae'r loes a'r tor-calon wedi'n llorio ni. Ti'n gwybod, dy drafferth di yw dy fod di'n rhy garedig, yn rhy ystyriol, o'r rhai sy'n gweithio yn dy erbyn di. Calla, pl卯s, a dwed wrtho fe fod dim croeso iddo fe yma mwyach. Mae e' wedi gwneud ei ddewis unwaith, ei fusnes e nawr yw dal i fynd a chrwydro'r byd a'n gadael ni'n llonydd. Rwyt ti'n byw yn yr oes o'r blaen, oes y derbyn n么1, oes y dioddef tawel, oes y maddau diamod - ond mae pethau wedi newid, ti'n gwybod, pawb am ei hunan yw hi nawr, does dim rhaid siario bellach, yn y cadw mae'r gyfrinach. Pryd wyt ti'n mynd i ddod allan o dy dy gwydr ac ymuno 芒 ni yn y byd real ?"

Safodd y tad yn dawel am funud ar garreg yr aelwyd, edrychodd i'r t芒n, a llifodd ei ddagrau lawr ei wyneb. "Na" meddai, "mae maddau yn rhan anhepgor o fywyd. Yn ein maddau mae ein bodlonrwydd i'w weld. Yn ein maddau mae ein caredigrwydd yn dangos. Yn ein maddau mae'n mawredd ni'n dod i'r amlwg. A dyma i ti'r gwir: bach feddyliais i fod yn rhaid i mi faddau i ddau fab."


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch 芒 datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy