Cafodd y rhaglen ei darlledu ar S4C ar y 10fed o Fedi. Pwnc arbenigol Rhys oedd Yr Ymerodraeth Rufeinig o 133CC hyd at farwolaeth Julius Caesar. Mae Rhys wedi bod 芒 diddordeb mewn hanes ers nifer o flynyddoedd, ag yn mwynhau bod yn aelod o glwb archeolegwyr ifanc sy'n cyfarfod yn fisol yn Nhondu. Llwyddodd Rhys i ddod yn ail yn ei rownd
gyda 23 o bwyntiau. Roedd ei rieni, Non a Paolo a'i frawd Luca yn falch fawn ohono, fel yr oedd ei Nain, Mari Huws. Disgybl yn Ysgol Bro Ogwr oedd Rhys pan gafodd y gyfres ei recordio, ac mae newydd ddechrau yn Ysgol Gyfun Llangynwyd. Pob lwc yn yr ysgol newydd Rhys a dalia ati gyda'r astudio!
Fy mhrofiad ar "Mastermind"
Pan glywais y gerddoriaeth curodd fy nghalon fel drwm - roeddwn yn siwr bod pawb yn y gynulleidfa'n gallu clywed fy nghalon. Yna dyma Betsan Powys yn gofyn am y pedwerydd cystadleuwr - codais o fy nghadair a cherdded tuag at y gadair ddu - 2 funud ar Yr Ymerodraeth Rufeinig 133CC i farwolaeth Julius Caesar - cefais y cwestiwn gyntaf yn gywir - diolch byth am hynny - o leiaf byddaf yn cael 1 pwynt. Ar ddiwedd y rownd fy sgor oedd 12 efo un pass. Roeddwn yn gydradd ail. Yna codi o'r gadair eto ar gyfer y rownd gwybodaeth gyffredinol - o na y cwestiwn cyntaf yn anghywir - beth fydd Nain yn dweud ? 18 twll mewn cwrs golff - fe ddylwn fod wedi gwybod hynny - y panic yn dechrau - yna ateb cyfres o gwestiynau yn iawn. Diolch byth am hynny - dechrau mwynhau fy hun nawr - y bleep yn mynd - methu credu bod fy amser fyny. Cefais i 23 o bwyntiau and cafodd yr enillydd 27 o bwyntiau. Roedd cael cefnogaeth fy nheulu, ffrindiau a rhai athrawon o'r ysgol yn gret - mwynheais y profiad yn fawr ag rydw i yn argymell unrhyw un sydd am gystadlu i geisio.
Rhys Muzzupappa
|