大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Hogwr
Eurwen Richards Anrhydedd i Eurwen
Tachwedd 2007
Yn ddiweddar derbyniodd Eurwen Richards anrhydedd arbennig iawn ac yn un cwbl annisgwyl.

Mewn cinio mawr a gynhaliwyd dan nawdd Bwyd o Brydain (Food from Britain), pan ddaeth gwneuthurwyr gorau cawsiau Prydain ynghyd i ddathlu'r traddodiad o wneud caws, dyfarnwyd hi yn Berson Caws y Flwyddyn 2007- anrhydedd arbennig sy'n mynegi gwerthfawrogiad o'i chefnogaeth gyson i wneuthurwyr caws Prydain.

Mae Eurwen yn bur adnabyddus ym Mhrydain a ledled y byd . Yn gyn-lywydd Cymdeithas Technoleg Llaeth ac yn aelod er anrhydedd o Gymdeithas Gwneuthurwyr Caws Arbennig, eisoes, yn 2001, derbyniodd wobr a roddwyd gan Fwrdd Caws Prydain am ei gwasanaeth i'r diwydiant Caws.

Ond roedd y wobr ddiweddaraf yn un nad oedd yn disgwyl ei dderbyn ac felly'r achlysur yn un arbennig o gofiadwy iddi hi. Derbyniodd blac pren trawiadol i nodi'r achlysur.

Cystal nodi i Eurwen gyhoeddi llyfr llynedd sy'n olrhain hanes gwneud caws yng Nghymru ar hyd y canrifoedd. Mae'n cynnwys pob peth a allwch feddwl am wneud caws ac yn un difyr i'w ddarllen. Caws Cymru yw'r teitl a Gwasg Carreg Gwalch yw'r cyhoeddwyr.

Unwaith eto llongyfarchion gwresog Eurwen ar yr anrhydedd diweddaraf.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy