大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Hogwr
Llun o hen siop gornel "Lawr sia'r Cop"
Mai 2007
Atgofion plentyn am fynd i siopa i'r Cop gyda Mamgu a Bopa J锚n.
Arferai Mam-gu a'i chwaer Bopa J锚n, fynd "lawr sia'r Cop" bron yn feunyddiol, fel arfer gyda'i gilydd, a minnau'n grwt bach yn dwlu ar fynd gyda nhw. Gallaf eu gweld nawr, y ddwy'n debyg rhyfeddol mewn cotiau hir tywyll a hetiau ffelt braidd yn ddisi芒p ar eu pennau. Cariai'r ddwy bob i fag llipa llwyd-ddu tra'n dal yn dynn yn fy nwylo bach. Cawn siawns i neidio dros ambell linell ddu yn y pafin nes bod Mam-gu'n blino ac yn fy siarsio i gerdded yn deidi fel bachgen mawr.

Wedi cyrraedd y Cop (Cooperative Stores) ar gornel y stryd byddai cyfle iddi hi neu Bopa eistedd ar gadair bren 芒 set grwn a dechrau rhoi'r byd yn ei le gan y byddai ambell un o'u cydnabod yn si诺r o fod yno ar yr un pryd ac i'r un perwyl.

Yn y dyddiau hynny 'mhell yn 么l cyn y rhyfel a chyn y doreth o reolau Glendid, Iechyd a Diogelwch sydd yn eu lle nawr ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain, roedd llawer o'r nwyddau ar werth yn agored ar gownteri'r Cop. Llenwai'r arogl hyfryd - rhyw gymysgedd rhyfedd o fenyn, caws, cig moch, te, bara - fy ffroenau.

Fy hoff beth oedd cael penlinio ar y gadair neu ar arffed Mam-gu i bwyso 'mreichiau ar y cownter pren a gwylio'r siopwr yn torri tamaid o gaws 芒 gwifren, neu yn torri'r menyn 芒 chyllell anferth. Roedd y broses o bwyso a mesur a'r lapio deheuig wedyn mewn papur gwrthsaim yn rhyfeddod, a gwylio'r cig moch yn cael ei dorri, sleisen wrth sleisen, ar y peiriant mawr coch yn foddhad pur i mi. Ambell waith byddai Bopa J锚n yn prynu chwarter o fisgedi o'r tuniau a safai'n bentwr sgw芒r ger y cownter ac yn rhoi un neu ddau i mi i'w bwyta wedi i'r siopa ddod i ben. Diwrnod arbennig fyddai hwnnw!

Arferai'r siopwr ysgrifennu'r archeb ar lyfr Mam-gu gyda phapur carbon glas rhwng y tudalennau. Pan fyddai'r nwyddau'n ddiogel ar y cownter, diflannai'r llyfr pwysig i'r swyddfa ym mhen draw'r adeilad lle gofalai Miss Jones gofnodi'r cyfan cyn anfon y llyfr lliw hufen brwnt 'n么l i ddiogelwch bag Mam-gu. Cofiaf yn dda hi'n egluro i mi unwaith mor bwysig oedd y llyfr hwn gan mai ynddo y cofnodwyd y 'difi' a fyddai'n helpu i dalu am bethau annisgwyl rywdro yn y dyfodol pell. Ychydig wyddwn i bryd hynny taw cyfeirio at ei hangladd roedd hi.

Ambell dro cawn fynd i'r Adran Ddillad drws nesaf i brynu sanau ac yn fan 'na byddai'r arian a dalai'n cael ei drosglwyddo i declyn bach brown a wibiai wedyn ar wifren uwch ein pennau i'r swyddfa. Tra byddai Mam-gu a finnau'n aros yn amyneddgar ar bwys y cownter a hithau'n holi hynt a helynt teulu'r ferch ifanc a weinai arnom, saethai'r teclyn bach yn 么l ar y gwifrau fel bod Mam-gu'n cael ei newid cyn i ni adael y siop. Roedd fy llygaid i fel soseri wrth i mi synnu ar y rhyfeddod technolegol hyn.

Dwn i ddim pryd y pylodd yr hwyl o fynd gyda Mamgu a Bopa J锚n - erbyn i mi dyfu'n "fachgen mawr" o oed mynd i'r ysgol si诺r o fod.

Dwn i ddim pryd chwaith y clywais ddiwethaf arogl hen siop groser yn fy ffroenau. Rhyw wthio troli rownd archfarchnad enfawr y byddaf yn wythnosol, yn ei lenwi 芒 phacedi plastig lliwgar ac yn talu am y cyfan ran fynycha' gyda chardiau plastig yr un mor lliwgar. Caf brynu sanau neu beth a fynnaf dan yr un to a stwffio'r cyfan i grombil y troli mawr.

Efallai bod un peth yn gyffredin rhwng hyn a'r siopa a wnawn 'slawer dydd gyda mam-gu a Bopa J锚n. Wrth gwrdd 芒 ffrindiau yn y Cop bron bob dydd, llwyddai'r ddwy i ddarganfod bob tamaid o newyddion da a drwg ar led yn ein pentre bach. Yn yr un ffordd, wrth wthio ar hyd ambell i ale yn Tesco Express rwy'n cwrdd 芒 mwy o 'nghydnabod nag a welaf mewn oes ar ben y stryd ac, er nad oes gen i'r gronyn lleiaf o ddawn 'hel clecs' fy hen anwyliaid, mae ambell i stori ddiddorol yn dod i'm sylw wrth i mi siopa.

Gwerfyl Thomas

Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy