'Paid a gweud wrth neb...' Dyna' i eirie d'wetha imi. Ond shwd allwn i gadw'n dawel. A beth bynnag, bydde pobol yn si诺r o holi. Jacob y dyn dall yn gallu gweld! Ac ma' pawb yn 'nabod i achos mod i'n ddall. Bydd pob un yn sylwi arna i pan fyddai i' n mynd ma's.
Rwy'n cofio un tro pan o'n i'n grwtyn ma's 'da'r bois yn whare ac yn towlu cerrig. Da'th hen 诺r draw i weud y drefen wrthon ni. Fe ofynnws e am enw pob un, heblaw amdana i. Roedd hi'n ddigon rhwydd iddo fe gofio pwy o'n i. Ma' pethe fel
'na'n wa'th na bod yn ddall. Ma'n warth ar y teulu i gyd, fel staen brwnt. Bydd rhai rownd y demel yn ddigon haerllug i weud wrth Mam taw teulu drwg yw'n teulu ni!
Ma' bod yn ddall yn beth normal i fi! A gweud y gwir, yn ' y nghalon, mae ofon gweld arnai i. Shwd byddwn i'n ymdopi? Fyddwn i ddim yn nabod neb wrth 'u gweld nhw! A shwd bydde hi arna i petawn i'n gallu gweld anifeilied? Adeilade? Y wlad? Ma' n hala cryd arna i. Ma' Mam wedi mynd a fi at bob doctor yn y wlad. Wedi trio popeth ond do's dim wedi gwitho. Nawr ma' Mam yn cadw mla'n ishe i fynd at yr Iesu yma. A'r dydd o'r bla'n da'th Miriam a'r stori adre shwd ro'dd e wedi glanhau ryw druan
o'r gwahanglwyf. Er mwyn ca' l llonydd dyma fi'n cytuno mynd pan fydde Iesu nesa yn y cyffinie.
'Mhen sbel da'th y newydd 'i fod e yn Bethsaida felly dyma Jethro yn nhywys i i'r dre. Ro'dd hi'n ddigon rhwydd gw'bod ble ro'dd Iesu oherwydd yr holl gynnwrf o'dd o'i gwmpas e. Ro'n i wedi clywed bod dwsin o ddisgyblion yn 'i ddilyn e i bobman. Ro'dd eisie dynon cryf arno fe i'w amddiffyn ac i gadw'r holl bobol draw. Ac ro'dd un neu ddou garw 'da fe! Ro'dd tipyn o hwpo ond rhedws Jethro drwyddyn nhw a'r peth nesa ro'dd Iesu ar 'y mhwys i'n whilia ' da fi.
Y peth cynta 'na'th e o'dd gaf'el yn fy llaw i a mynd a fi ma's o olwg pawb fel petai e'n gw'bod y fath gryndod o'dd tu fiwn i fi. Y peth nesa 'na'th e o'dd dodi poer ar fy
llyged i. Do'dd hyn ddim yn ddiarth i fi o gwbwl. Ron i wedi clywed y stori rai wythnose'n 么l fel ro'dd Iesu wedi rhoi clyw i ddyn byddar a gwella' i atal gweud drw' boeri a dodi'i fysedd yn 'i glustie. A blynyddo'dd yn 么l pan o'n i'n
grwt bach fe driws sawl doctor rhoi golwg i fi drw' ddodi poer ar fy llyged. Ac ro'dd ffydd gan Mam miwn poer. Pan fydden i'n llosgi mys ar rywbeth po'th bydde hi'n gweud, 'Doda fe yn dy geg'. A phan fydden i' n cered miwn i wely o ddanadl poethion ac yn ca'l 'y migo'n gas bydde Mam yn siwr o weud, 'Poera ar dy fys i'w rhwto ynddyn nhw'. A wir. ro'dd e'n gw' ithio bob tro! Ond w' ithws e erio' d ar fy llyged i.
Yn y tawelwch y tu fa's i'r dre dyma Iesu'n gofyn i fi os o'n i'n
gallu gweld. Codes fy ngolygon ac ar fy ngwir ro'dd peth golwg 'da fi! A wedes i wrtho fe mod i'n gallu gweld rh'wbeth fel co'd cyn gweud taw dynion o'n nhw achos ro'n nhw'n cerdded! Ro'n i wrth 'y modd; diwrnod gore mywyd i. Ond do'dd hyn ddim yn ddigon da i Iesu, rhyw hanner gweld! Felly dyma fe' n dodi' i ddwylo eto ar fy llyged i ac yn awr gallwn weld popeth yn glir, hyd yn o' d pethe o' dd yn bell i ffwrdd. Safes yn syn. Agores a chaees fy llygaid i brofi i fi fy hunan mod i'n gallu gweld a dim breuddwydo ro'n i. Ro'n i'n fud
am sbel. Ac yna fel pwll y m么r dechreues weud wrth Iesu mor ddiolchgar o'n i. Fe wenws e arna i. Yna miwn llais difrifol fe siarsws e fi, 'Cer sha thre a paid a gweud wrth neb!'
|