Croesawyd pawb gan un o'r diaconiaid Mr Islwyn Page a da oedd gweld chwaer a chwaer yng nghyfraith Mr Evans yn bresennol yn yr oedfa. Cymerwyd at y gwasanaeth gan gyfaill i Mr Evans sef y Parchg Euros Miles, gweinidog Ruhamah Pen-y-bont ar Ogwr a Noddfa Porthcawl.
Ordeiniwyd y Parchg Alwyn Evans yn Eglwys y Bedyddwyr Saesneg Zion, Maesteg yn 1957 ac oddi yno symudodd i fod yn weinidog ar eglwys Greenfield, Llanelli ac yna yn Eglwys Y Central, Maesteg ac oddi yno i'r G诺yr cyn symud i Eglwys Gymraeg Toronto yn Canada. Symudodd yn 么l i fod yn weinidog yn nalgylch Ceredigion o dan enwad y Methodistiaid (Wesleaid).
Hyfryd oedd gweld Mr Elwyn a Mrs Ray Williams yn bresennol, sef y p芒r cyntaf iddo ef eu priodi, a hynny yn eglwys Zion bron i hanner canrif yn 么l. Siaradwyd ar ran y ddau gan Mr Elwyn Williams gan ddwyn i gof blynyddoedd cyntaf y Parchg Alwyn Evans fel gweinidog ieuanc yn Zion. Diolchodd Mr Evans i bawb am yr oedfa, y wledd a'r dymuniadau da a dderbyniodd oddi wrth yr aelodau a chyfeillion.
Wedi'r oedfa cafwyd gwledd yn festri'r capel wedi ei pharatoi gan chwiorydd yr eglwys. Llongyfarchwyd Mr Evans gan Mr David Rees (diacon) a darllenodd Mr Morgan D. Jones benillion o'i waith yn nodi'r achlysur.
Dyma rai o benillion Morgan D Jones. (gallwch weld y gerdd yn ei chyfanrwydd yn rhifyn Medi 2007 o'r Hogwr.
Llongyfarchiadau Alwyn,
Ar ddathlu heddiw'r dydd
Eich hanner canfed flwyddyn
Yng ngweinidogaeth ffydd.
Fe gawsoch brofiad helaeth
Wrth symud yma a thraw,
O fan i fan yng Nghymru,
Ac yn Toronto draw.
Diolchwn ichi heddiw,
Fel eglwys yma'n awr
Am ddyfod atom gyfaill,
Yn enw'r Brenin mawr.
Diolchwn ichi'n gynnes
Am fod yn fugail mwyn,
Yn fawr eich gofal drosom,
A gwrando ar ein cwyn.
Morgan D Jones
|