大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Cardi Bach
Y criw yn ymweld 芒 chorff sy'n dysgu Basgeg i oedolion, AEK Taith i Wlad y Basg
Ebrill 2007
*Hau zure Euskal Herrirako lehen bisita da? Am y tro cyntaf ers iddo ymddangos, mae Wilia yn defnyddio iaith wahanol i'r Gymraeg ar ei dudalen flaen!

A hynny oherwydd bod deg o bobl o Ganolfan Cymraeg i Oedolion De-orllewin Cymru (sydd wedi'i lleoli ym Mhrifysgol Abertawe) newydd ddychwelyd o ymweliad ag Euskadi - neu Wlad y Basg - er mwyn dod i wybod mwy am eu dulliau dysgu a threfnu ym maes dysgu Basgeg i oedolion.

Mae digon yn gyffredin rhwng Gwlad y Basg a Chymru: poblogaeth o tua 3 miliwn, y ddwy iaith yn hollol wahanol i iaith eu cymdogion mawr (Sbaeneg a Saesneg) ac oddeutu 20% o'r boblogaeth yn siarad Basgeg/Cymraeg. Ond o safbwynt buddsoddi yn yr iaith ac agweddau tuag ati, darganfuodd yr ymwelwyr o Gymru fod byd o wahaniaeth. .

Mae gan y corff sy'n gyfrifol am ddysgu Basgeg i oedolion (HABE) gyllid o 41 miliwn o Ewros y flwyddyn (tua 拢27,800,000);
Mae 109 o Euskaltegis (canolfannau iaith - rhai'n eithaf tebyg i D欧 Tawe);
Mae dros 70 o bobl yn gweithio'n llawn amser i HABE yn unig heb s么n am y gweithwyr allan yn y maes;
Y norm o ran oriau dysgu yno yw 10 - 19 awr yr wythnos (mae'r cwrs mwyaf dwys yn Abertawe yn cynnig 12 awr yr wythnos a'r Wlpan fel arfer yn cynnig 4 awr yr wythnos).

Yn ogystal 芒 hynny, roedd yr arbenigwyr yno yn dweud eu bod wedi sylwi ar ostyngiad bach yn nifer yr oedolion (ifanc) sy'n dysgu'r iaith gan fod cymaint yn llwyddo i'w meistroli yn blant yn yr ysgolion erbyn hyn. Rhoddir cryn bwyslais ar ddysgu'r Fasgeg i fewnfudwyr o ardaloedd eraill yn Sbaen ac o wledydd tramor (De America a Gogledd Affrica yn bennaf).

Roedd cyfle yn ystod yr ymweliad i gwrdd 芒 phrif swyddogion HABE ynghyd 芒 chynrychiolwyr o Adran Cynllunio Ieithyddol Llywodraeth Gwlad y Basg. Cafwyd blas ar ddysgu Basgeg ar-lein, aeth y criw i ymweld 芒 chanolfan breswyl i ddysgu Basgeg i oedolion (a'r mwyafrif helaeth o ddysgwyr yno yn oedolion ifanc) ac, yn Bilbao, (gweler y llun uchod) ymwelwyd 芒 chorff arall sy'n dysgu Basgeg i oedolion, AEK. Nhw sy'n gyfrifol am ras enwog y Korrika sy'n cael ei chynnal bob dwy flynedd i godi arian i'r achos ac - yn bwysicach efallai - i godi ymwybyddiaeth am yr iaith a threfnir g诺yl o weithgareddau cymdeithasol yn y Fasgeg yn ystod y ras. Roedd adeilad AEK yn fwrlwm o weithgareddau a rhannau ohono yn atgoffa rhai ohonon ni o lawr uchaf T欧 Tawe!

Er bod ambell her o hyd yng Ngwlad y Basg - yn enwedig o ran sicrhau bod pobl yn defnyddio'r iaith yn y gymuned - roedd yn ysbrydoliaeth fod yn rhan o'r brwdfrydedd heintus sydd yno. Yr hyn sy'n gwbl amlwg yw nad oes modd ysgaru dysgu'r iaith i oedolion 芒'r polis茂au ehangach i adfer a normaleiddio'r Fasgeg yn y gymdeithas yno.

*Cyfieithiad: Ai dyma'r tro cyntaf i chi ymweld 芒 Gwlad y Basg?


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy