Fel rhan o ddathliadau Nadolig y Fenter, fe drefnwyd bwffe mawreddog i ddysgwyr ddydd Mercher y 7fed o Ragfyr. Bu'r paratoadau yn mynd ymlaen am wythnosau, gyda phawb yn gwerthu tocynnau ac yn paratoi bwyd ac adloniant.
Fe fu gwirfoddolwyr Merched y Wawr yn brysur iawn dros yr wythnos ddiwethaf yn coginio bwyd ar gyfer y bwffe, ac roedd nifer ohonynt wedi helpu gweini ar y diwrnod hefyd. Roedd Iona o Fenter Castell-Nedd Port Talbot wedi dod i ddiddanu'r dorf drwy ganu nifer o garolau Nadolig, ac fe wnaeth nifer o'r dysgwyr ymuno yn y canu! Daeth Sion Corn i'w gweld hefyd (!), ac fe fu'n ddigon caredig i ddweud ychydig o j么cs a thynnu'r raffl.
Bu'n ddiwrnod prysur iawn, ond gwerth pob munud. Roedd 100 o ddysgwyr wedi mynychu, sydd yn record new卢ydd i'r Fenter, a phob un wedi cael hwyl ac wrth eu boddau. Roedd neuadd T^y Tawe dan ei sang!!
Mae Caffe Clonc yn cwrdd yn wythnosol (tymor ysgol) ar ddydd Mercher yn Nh欧 Tawe rhwng 12-2. Mae'n cael ei redeg yn wirfoddol gan aelodau o gangen Abertawe MYW. Hoffai'r Fenter a Chymdeithas T欧 Tawe ddiolch yn fawr iawn is Ruth, Carys, Menna, Ann Davies, Val, Mair, Ann Morgan, Kay, Eileen. Glenys, a Telsa am eu gwaith caled, nid yn unig eleni ond am yr holl gyfnod maent wedi bod yn gwirfoddoli yn y caffi. Hoffwn hefyd ddiolch i Marc Stonelake am fod yn Si么n Corn mor unigryw!
Noson Dim Treiglo i Ddysgwyr Aber卢Tawe
Fe gynhaliwyd Noson Dim Treiglo, di卢gwyddiad cymdeithasol ar gyfer dysgwyr, ar Dachwedd 11eg yn Nh欧 Tawe. Roedd hi'n noson lwyddiannus tu hwnt gyda nifer o bobl yn dweud iddynt gael amser bendigedig. Roedd rhyw 75 o bobl yno yn gyfan gwbl, yn gymysgedd o ddysgwyr, tiwtoriaid a siaradwyr Cymraeg.
Cafwyd ychydig o gemau iaith ysgafn i ddechrau'r noson, gyda tiwtoriaid yn cymryd rhan flaenllaw ac yn annog y dysgwyr i ymarfer eu Cymraeg. Roedd gr诺p gwerin y Mari Lwyd yno yn cynnal sesiwn werin ac yna tua diwedd y noson roedd Dai, un o swyddogion y Fenter, wedi cymryd i'r llwyfan fel ein 'dj' am y noson! Roedd y noson yn gyfle gwych i'r dysgwyr gael ymarfer eu Cymraeg, i glywed cerddoriaeth Gymraeg ac i gwrdd 芒 dysgwyr eraill.
Mae'r Fenter wedi bod yn cynnal nosweithiau tebyg mewn cydweithrediad 芒 gweithgor dysgwyr y Fenter, ers tipyn o amser bellach, yn trefnu un bob tymor ac yn amrywio ar yr adloniant ynddynt. Roedd y noson hon wedi ei threfnu yn agos at ddechrau'r tymor cyntaf er mwyn dangos i'r holl ddysgwyr newydd bod cyfleoedd iddyn nhw ddefnyddio'u Cymraeg tu allan i'r ystafell ddosbarth, a bod nifer o bobl eraill yn yr un sefyllfa 芒 hwy. Mae'r ymateb wedi bod yn un ardderchog, gyda nifer o ddysgwyr yn mynd yn 么l i'w gwersi ac yn annog eu cyd-ddysgwyr i ddod i'r digwyddiad nesaf.
Hoffai'r Fenter ddiolch i'r gweithgor am eu gwaith diflino, ac i'r holl diwtoriaid a dysgwyr sydd wedi cefnogi'r digwyddiadau dros y 12 mis diwethaf.
Pecynnau Dysgwyr
Unwaith eto eleni, penderfynwyd llunio pecyn gwybodaeth ar gyfer holl ddysgwyr newydd Abertawe. Mae dros 600 o'r pecynnau, sy'n llawn o wybod卢aeth defnyddiol i ddysgwyr am wefannau, adnoddau, grwpiau cymorth ayb, bellach wedi cael eu dosbarthu ymysg y dysgwyr trwy eu tiwtoriaid. Os ydych yn ddysgwr, ac heb dderbyn eich pecyn gwybodaeth, cysylltwch 芒 ni ar 460906, neu ewch i'n gwefan menterabertawe.org
Diolch yn fawr i wirfoddolwyr y gweithgor dysgwyr am ddod i helpu swyddogion y Fenter i bacio'r holl becynnau!