Cystadleuaeth flynyddol yw hon ble mae ysgolion a cholegau yn cystadlu gyda chwmni penodol i ddatrys problem peirianneg a osodwyd gan gwmni.
Eleni, bu mwy na 100 o ysgolion o Gymru yn cymryd rhan, gyda rhai colegau yn cofrestru mwy nag un t卯m.
Roedd yn gyfle i'r disgyblion ehangu eu gwybodaeth a'u profiadau ac i sylweddoli pwysigrwydd peirianneg yn ein bywydau beunyddiol.
Roedd Ysgol Gyfun Gwyr yn gweithio 芒 Schaeffler UK o Gasllwchwr. Dechreuodd y prosiect ym mis Hydref, gan barhau am chwe mis, gyda'r cyflwyniad terfynol yn digwydd yn y Celtic Manor yng Nghasnewydd ym mis Mawrth.
Y broblem a osodwyd i'r t卯m oedd i greu llinell gydosod awtomataidd a fyddai'n hwyluso'r gwaith yn y ffatri. Rhaid oedd ysgrifennu prosiect o leiaf 100 tudalen, adeiladu model ac yna cyflwyno'r gwaith o flaen beirniaid annibynnol a'r ysgolion eraill.
Dyma'r trydydd tro i'r ysgol gystadlu, ac yn wir, bu'n llwyddiant ysgubol wrth feddwl bod nifer o dimau yn cynnwys disgyblion yn astudio Peirianneg Lefel A.
Enillodd y t卯m wobr ariannol a'r gystadleuaeth - 'Y cyflwyniad mwyaf effeithiol o'r datrysiad dewisiedig' a gyllidwyd gan RWEnpower. Dyma'r drydedd flwyddyn yn olynol i'r ysgol ennill gwobr yn y gystadleuaeth yma, megis yr Hat Trick!! Neu hyd yn oed Y Goron Driphlyg!!
|