大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Cardi Bach
Y ddau diwtor Dau diwtor ar daith
Medi 2007
Ym mis Gorffennaf 2007, bu dau diwtor Cymraeg i Oedolion o Abertawe yn ddigon ffodus i gael y cyfle i ddysgu ar gwrs Cymraeg yn nhalaith Efrog Newydd, sef Chris Reynolds a Steve Morris.

Mae Cymdeithas Madog yn trefnu cwrs blynyddol i Gymry alltud ac Americanwyr o dras Cymreig mewn mannau gwahanol yn y wlad ac eleni cynhaliwyd y cwrs yn Albany, prifddinas y dalaith. Steve oedd y prif diwtor ac roedd e'n dysgu ar y cwrs am y seithfed tro. Roedd Chris yn mynd yno am y tro cyntaf.

Hedfanon ni o Fryste i Newark, Efrog Newydd yng nghwmni'r trydydd tiwtor o Gymru, Elwyn Hughes o Brifysgol Bangor. Treuliodd y tri ohonon ni dair noson yn Brooklyn mewn gwesty hyfryd yn Raul Vasquez Place, Union St, bloc sydd wedi'i enwi ar 么l dyn lleol a gafodd ei saethu ar y stryd ychydig o flynyddoedd yn 么l. Wrth gerdded i'r subway bob dydd roedden ni'n pasio murlun coffa iddo fe ychydig o fetrau lawr y bloc o'n gwesty.

Yn y ddinas gwnaethon ni oroesi stormydd mellt a tharanau enfawr, ffrwydrad pibell st锚m a laddodd un person ac anafu degau o bobl eraill, a chamddefnydd difrifol wych o'r Saesneg gan drigolion y wlad. Cawson ni amser i feddwl y tu fas i 'Ground Zero'. Ychydig o flynyddoedd yn 么l buodd Chris lan i ben yr adeilad pan oedd yn Efrog Newydd y tro diwetha' a rhyfedd iawn oedd gweld y twll lle bu'r adeilad.

Lawr y subway (dros 5 miliwn o bobl yn defnyddio hwn bob dydd!) a lan y dre. Roedd y tri ohonon ni yn siomedig gyda chynnwys y Guggenheim, (er rhaid cyfaddef doedden ni ddim yn deall y rhan fwyaf ohono fe!) ond yn fwy siomedig gyda'r tu allan lle roedd amdo enfawr yn cuddio adeilad hynod Frank Lloyd Wright. Aethon ni ymlaen i'r Metropolitan a'i gasgliadau enfawr, rhy fawr i'w gweld mewn wythnos heb s么n am brynhawn.

Yn 么l yn ne Brooklyn cawson ni amser i chwilota o gwmpas yr ardal, ac ar 么l mynd heibio'r depot tanwydd, garej, 'car lot', bloc tenament, adfeilion o dai a llefydd tebyg i'r hyn 'dych chi'n ei weld ar y Sopranos, daethon ni o hyd i wyneb hyfryd Brooklyn: Strydoedd 'brownstone' Park Slope, Prospect Park, Grand Army Plaza, fersiwn Efrog Newydd o'r Arc de Triomphe, a'r croesffyrdd di-ri sy'n nodweddiadol o gynllun strydoedd y ddinas, yn llawn diners, drugstores a phobl gyffredin Efrog Newydd. Ar 么l bod yn y ddinas ffrenetig roedd bywyd hamddenol Brooklyn yn braf i'w weld.

Yn ystod y tridiau aethon ni am dro o gwmpas y ddinas, taith o gwmpas y Cenhedloedd Unedig a chyfle i fynd i ben Canolfan Rockefeller. Aethon ni i'r Bronx i weld Stadiwm y Yankeeod a chrwydro'r ardal, wel, crwydro un bloc er mwyn cael blas o'r ardal, hon oedd y Bronx wedi'r cyfan.

Gyda'r nos roedd cyfle i flasu 'bach o gwrw a chan ein bod yn America, cwrw Americanaidd amdani. Yn groes i'n holl ragfarnau yn erbyn cwrw'r wlad roedd yn bleser ceisio cynnyrch y bragdai lleol, cwrw tywyll megis Samuel Adams, Brooklyn, Farmer Jon's Oatmeal Stout a rhywbeth o'r enw 'Arrogant B***ard Ale': tywyll, trwchus ond ychydig yn drwm ei flas. Ym mhob bar roedd teledu ac ar bob teledu roedd p锚l fas, un o'r gemau mwya' diflas greodd dyn erioed.

Gadawon ni'r Afal Fawr ar ddydd Sadwrn a chafwyd taith reilffordd hamddenol yn dilyn afon Hudson 136 milltir i'r gogledd gan basio llefydd gydag enwau hynod fel Ossining, Poughkeepsie a Coxsackie, enwau'r Indiaid sydd yn cofnodi diflaniad trigolion brodorol yr ardal. Roedd y daith hefyd yn mynd 芒 ni heibio pentre Sleepy Hollow, lleoliad stori fer Washington Irving, heibio i orsaf niwclear (sy'n gollwng!) Indian Point a thrwy ganol carchar enwog Sing-Sing.

Cyrhaeddon ni Albany brynhawn Sadwrn lle roedd dau aelod o'r gymdeithas Gymraeg leol yno i'n cyfarfod a mynd 芒 ni draw i leoliad y cwrs, campws Coleg Sage. Cawson ni ddiwrnod i ymlacio a phryd o fwyd mewn bar lleol tra'n gwylio g锚m gyntaf David Beckham i Ddinas yr Angylion yn erbyn Chelsea (syniad pwy oedd hwnna, tybed?). Y diwrnod wedyn cawson ni gwrdd 芒'n dosbarthiadau ni am wythnos lawn o ddysgu, gweithgareddau a chymdeithasu (dim ond er lles y dysgwyr wrth gwrs).

Y criwCasgliad hynod o bobl - Cymry, rhai 芒 chyndeidiau o Gymru a rhai heb gyswllt 芒'r wlad o gwbl. Cafodd Chris y fraint o arwain Twmpath (am y tro cyntaf a'r olaf), cafodd neb eu lladd felly mae'n cyfri hwnna fel llwyddiant. Uchafbwynt yr wythnos oedd Eisteddfod y cwrs gyda seremoni gadeirio a dawns y blodau unigryw gan d卯m o 'ferched' y fro (a thros y m么r!). Tw-tws, penwisg o flodau, chwibanau hwyaid, coesau blewog ..... mae 'na luniau ar gael ond er lles iechyd darllenwyr h欧n Wilia (a pharchusrwydd ambell i diwtor Cymraeg i Oedolion) gwell peidio 芒'u cynnwys yn yr erthygl hon!

Erthygl a Lluniau gan Chris Reynolds

  • Mwy o Abertawe

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Peidiwch 芒 datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy