Dyma ail ddrama Caryl i Arad Goch. Profodd 'Yr Ysbryd', a lwyfannwyd yn 2006, yn boblogaidd iawn ymysg y gynulleidfa ifanc. A dyma'r nod ar gyfer y cynhyrchiad hwn hefyd.
Mae'r ddrama'n ymwneud 芒 hunaniaeth pobl a'r rhwystrau mae rhai yn eu hwynebu wrth geisio darganfod pwy ydynt mewn gwirionedd. Dyma ddrama am dyfu i fyny, tor-priodas a salwch rhieni. Drama sy'n cwestiynu ein syniad o lwyddiant. Drama sy'n edrych ar ba mor wahanol all aelodau o'r un teulu fod. Dilynwn frawd sy'n serennu ar lwyfannau, chwaer sy'n aros i'w bywyd ddechrau'n 么l adref a mam sydd 芒 chyfrinach fawr fydd yn gwyrdroi bywydau'r tri am byth.
Chwaraeir rhan Si么n, yr actor ifanc sy'n gadael gartref i ddilyn ei freuddwydion, gan Ioan Gwyn o Dal-y-bont, Ceredigion, a Mari Beard o Aberystwyth sy'n chwarae rhan y chwaer, Sara, sy'n aros adref i ofalu am ei mam. Mae'r ddau yn actorion ifanc, proffesiynol sy'n cydweithio'n arbennig o dda ac yn llwyddo i gynnal sylw'r gynulleidfa yn y ddrama drwyddi draw.
Bydd 'Yr Ystafell Aros', sy'n apelio at bobl ifanc 13+ ac oedolion, yn ymweld ag Ysgol Gyfun Bryn Tawe, Abertawe ar Dachwedd 3, 2008 am 7.30pm. Mae tocynnau ar gael o Fenter Iaith Abertawe, (01792) 460906.
|