大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Cardi Bach
Torf yn y cyfarfod yn neuadd y Brangwyn Abertawe'n gwahodd yr Eisteddfod Genedlaethol i'r Ddinas yn 2006
Tachwedd 2003
Daeth mwy na 200 o bobl i gyfarfod cyhoeddus yn Neuadd y Brangwyn ganol mis Hydref i wahodd yr Eisteddfod Genedlaethol i ymweld ag Abertawe yn y flwyddyn 2006.

Bydd llawer o ddarllenwyr Wilia yn cofio ymweliad diwethaf yr Eisteddfod a'r ddinas ym 1982 pan gafodd yr wyl ei chynnal ym Mharc Singleton.

Dyma un o eisteddfodau mwyaf llwyddiannus yr wythdegau a'r gobaith yw gallu ailadrodd y llwyddiant hwnnw yn 2006.

Anerchwyd y cyfarfod gan Lywydd Llys yr Eisteddfod, Alun Evans yn ogystal 芒 chadeirydd Cyngor yr Eisteddfod, Hugh Thomas, y cyfarwyddwr, Elfed Roberts, trefnydd y de, Aled Si么n a phennaeth diwylliant a thwristiaeth Cyngor Dinas a Sir Abertawe, Iwan Davies.

Roedd Alun Evans wrth ei fodd 芒'r ymateb gan y cyhoedd ar y noson. "Mae'n ddechrau da iawn", meddai gan nodi mai cyfarfod y Brangwyn oedd un o'r cyfarfodydd gorau a welwyd o ran dangos cefnogaeth frwd i wahodd yr Eisteddfod Genedlaethol i ardal.

Dywedwyd yn y cyfarfod fod cynnal yr eisteddfod yn dod 芒 hwb economaidd i'r ardal lle'i cynhelir - er enghraifft, gwariwyd tua 拢6.4 miliwn yn ardal Llanelli yn 2000 ac amcangyfrifir chwistrelliad o 拢7 miliwn i economi dinas Abertawe pan ddaw'r eisteddfod yn 2006.

Wrth gwrs, does dim penderfyniad hyd yn hyn ynglyn 芒 lleoliad maes yr eisteddfod er bod Cyngor y ddinas o blaid defnyddio safle hen waith dur Felindre. Ond un o fanteision mwyaf cynnal yr eisteddfod yn Abertawe fydd yr effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol ar safle'r Gymraeg yn y ddinas ynghyd 芒 chodi ymwybyddiaeth am yr iaith yma.

Yn dilyn eisteddfod 1982, gwelwyd sefydlu cymdeithas Ty Tawe a nifer y dysgwyr yn y dosbarthiadau Wlpan yn treblu. Ugain mlynedd yn ddiweddarach, mae datblygiadau eraill ym maes addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn y ddinas a Menter Iaith Abertawe yn golygu bod y potensial o ran hybu'r Gymraeg yma yn sylweddol.

Ar ddiwedd y cyfarfod awgrymwyd enwau ar gyfer pwyllgor llywio I fynd 芒r gwaith yn ei flaen. Bydd y pwyllgore yn cwrdd am y tro cyntaf ar nos Fawrth 18 Tachwedd pan fydd cyfle I gyfethol aelodau eraill.

Y gobaith yw y bydd yn adlewyrchu holl rychwant a phrofiadau bywyd Cymraeg dinas Abertawe yn yr unfed ganrif ar hugain.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy