Roedd yno ar wahoddiad y Cylch Trafod Llyfrau i siarad am ei nofel ddiweddaraf, Y Gemydd. Noddwyd y noson gan Academi a Siwan Siop T欧 Tawe a chafwyd lluniaeth ysgafn yn y siop cyn symud i'r ystafell gefn i gynnal y cyfarfod, gyda Llinos Roberts yn cadeirio.
Yno bu Caryl yn siarad am y broses o greu Y Gemydd, gwaith a gymerodd ddwy flynedd iddi ei ysgrifennu, ac am arwyddoc芒d rhai o'r cymeriadau a'r digwyddiadau yn y stori. Bu Caryl yn treulio amser gyda gemydd ym marchnad Caerfyrddin, gan ddysgu llawer am adnabod gemau da. Drwy ddarllen llyfrau arbenigol, bu'n dysgu llawer yn ogystal am y grefft o dorri gemau, rhywbeth sy'n rhan bwysig iawn o'r nofel.
Cafwyd ymateb brwd iawn i'w gwaith, a'r farn gyffredinol oedd bod yr ail nofel hon yn rhagori hyd yn oed ar ei nofel gyntaf Martha, Jac a Sianco a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn 2005. Mae'r nofel honno'n cael ei throi'n ffilm ar hyn o bryd.
Bu Caryl hefyd yn s么n yn fwy cyffredinol am ei bywyd fel awdur llawn amser a'i dyhead fel person ifanc i bortreadu'r bywyd gwledig y mae hi'n gyfarwydd ag ef yn hytrach na'r bywyd dinesig sy'n destun cynifer o'n nofelau cyfoes.
Mae hi'n ferch o Ddihewyd, ger Aberaeron ac yn ferch i Doreen Lewis, y gantores gwlad adnabyddus. Mae Caryl bellach yn byw ger Aberystwyth.
Adolygiad Y Gemydd Mwy am Caryl Lewis
|