Roedd Roberts yn ddisgybl
yn Ysgol Gyfun
Cwmtawe, cyn astudio
Ieithoedd Modern a Chanoloesol
(gan gynnwys y
Gymraeg) yng Ngholeg
Emmanuel, Caergrawnt.
Mae'r llyfr yn arolwg o dafodiaith
Saesneg y cymoedd.
Y prif ddylanwad
arni, wrth gwrs, yw'r Gymraeg
- o ran geirfa a
chystrawen. Ysgrifennwyd
gyda'r darllenwr cyfredinol
mewn golwg. Mae'r llyfr
mewn 4 rhan.
Yn gyntaf ceir hanes cryno o ddatblygiad
ieithyddol yn y cymoedd. Yn ail mae enghreifftiau o ddeialogau a thestunau. Yna ceir rhyw 1800 o eiriau a thermau ac yn olaf ceir gramadeg Wenglish gydag
ymarferion.
Roedd dwy brif ysbrydoliaeth
i'r llyfr: gwaith Arthur Baur ar
Almaeneg y Swistir (mae'n
cyflwyno'r dafodiaith i gynulleidfa
Almaeneg-ei-hiaith fel
iaith annibynnol), a gwaith arloesol
John Edwards ('Talk
Tidy') yn yr 80au.
Ers lansiad y llyfr, bu cryn
ddiddordeb yn y cyfryngau -
'Wedi Saith', Radio Wales gyda
Roy Noble, cyfweliad gyda
Hywel Gwynfryn a Nia, 2 dudalen
yn yr Echo, tudalen o review
yn The Big Issue, a 2
hanner tudalen yn Golwg.
Mae Robert wrthi ar hyn o bryd
yn gwneud ymchwil bellach
mewn fframwaith PhD ym
Mhrifysgol Morgannwg ar
'Wenglish fel cyfrwng ar gyfer
ymadrodd a pherfformio'.
Mae'n gobeithio dangos yn
eglur y r么l bwysig sy gan Wenglish
yn y broses o greu hunaniaeth
gymunedol, ac hefyd
rhoi canllawiau at ei gilydd ar
gyfer ysgrifennu creadigol newydd a pherfformiadau.
|