大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Lloffwr
Maer Abergwaun, a phlant o Belarus Plant Chernobyl yn dweud diolch
Ebrill 2003
Mae Llinell Bywyd Plant Chernobyl am ddiolch yn dwymgalon i bob un o'r cymdeithasau haelfrydig eu meddwl ac unigolion sydd wedi cyfrannu i lwyddiant ymweliad grwp o blant o Belarus ag Abergwaun a'r ardal dros gyfnod o fis.

Ymadawodd y grwp ag Abergwaun ar Fawrth 9 ar 么l treulio mis yn llawn o weithgareddau cyffrous. Roeddent yn drist lawn i adael y teuluoedd a fun gofalu amdanynt ond mae'r ymweliad yn golygu bod rhywfaint o liw wedi dod n么l i'w bochau a rhywfaint o gig wedi cael ei roi ar yr esgyrn. Mae peth o'r clod am hyn yn mynd i Tesco's Hwlffordd a fu'n ddigon caredig i wneud yn siwr bod afol y dydd ar gael i bob plentyn bob dydd. Credir iddynt fwyta eu ffordd drwy bum bocs o 90 afal yn ystod eu arhosiad.

Maent yn ddiolchgar hefyd i Boots Abergwaun am y poteli mawr o vitiminau ar gyfer bob plentyn, ac fe fyddant yn dal i'w cymryd ar 么l dychwelyd adref.

Bu Cyngor Sir Penfro yn gyfrifol am drefnu a thalu am y bysiau bu'n eu cludo n么l ac ymlaen.

Llwyddodd Mrs Margaret Burnett a'i thim o wirfoddolwyr godi 拢600 a bu hynny'n rhanol gyfrifol am yr esgidiau a brynwyd i bob plentyn am bris rhesymol o siopiau esgidiau yn Abergwaun.

Rhoddwyd archwiliadau dannedd yn rhad iddynt gan Catrin Owen a'i staff, a gan Miss Lemon (o Abergwaun); John Lawrence o Drefdraeth ac Elspeth Tolland Portfield Hwlffordd. Gwerthfawrogwyd eu haelioni yn fawr iawn.

Mae eu dyled yn fawr hefyd i Mr a Mrs Alexander Babis o westyr Old Cross yn Nhyddewi; Ysgol Bro Dewi am eu croeso twymgalon i'r plant i ymuno a hwy i ddathlu dydd Gwyl Dewi yn yr eglwys gadeiriol; yr Oceanarium; Clwb Rotari Abergwaun ac Wdig am drefnu diwrnod iddynt yn Folly Farm ac i Folly Farm en hunain am gymaint o reidiau am ddim; i F芒d Achub Abergwaun a'i lywiwr ar criw am y trip ar y bad achub; I ysgol Tasker-Milward am en gwahodd i weld 'Hot Mikado'; Ysgol VC Hwlffordd ac Ysgol Mount Airey; Cymdeithas ddiwylliadol Trewyddel; BP Karting, Liwynhelyg; Castell Penfro; Pirate Pete o Aberdaugleddau; ac hefyd i faer Abergwaun y Cyngh David Williams a'i osgordd am y te bendigedig a baratowyd yn Siambr y Maer ar gyfer y plant a'r teuluoedd y buont yn aros gyda hwy. Diolch i'r maer hefyd am gyfiwyno anrheg yr un i bob plentyn tei i'r bechgyn a sgarff i'r merched. Fel gwerthfawrogiad, cyflwynodd arweinydd y Belarusiaid, Tamara Zosima anrheg i'r maer o addurn i'w roi ar y wal ac anifail gwyllt o'r ardal arno.

Mae'r trefnwyr yn ddiolchgar tu hwnt i'r gymuned yn ac o amgylch Abergwaun a fu mor weithgar yn helpu i roi siawus i'r plant anffodus yma i gael y siawns i wella o'r hyn y mae ffawd wedi ei daflu atynt. Mae'r plant wedi gwerthfawrogi'r ewyllys da yn y gymuned ac fe fyddant yn well pobl o'r herwydd.

Os oes diddordeb gan unrhyw un i helpu gyda'r gwaith o Linell Bywyd Plant Chernobyl, yna cysyllter 芒 Bryon neu Carole Alabaster ar 01348 811325.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy