大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Lloffwr
Cip olwg o'r tu mewn gyda'r seddau symudol Ail agor Caersalem
Ebrill 2007
Gweddnewidiad i gapel Caersalem, Dyfed, sydd wedi ei leoli yn ardal y Cilgwyn ychydig filltiroedd tu fas i Drefdraeth.

Mewn dyddiau pan glywn gymaint o s么n am gau capeli, cafodd stori wahanol iawn ei hadrodd ar brynhawn Sul, Mawrth 25, 2007. Dyna pryd y daeth tyrfa fawr ynghyd i oedfa ail agor capel Caersalem, Dyfed, sydd wedi ei leoli yn ardal y Cilgwyn ychydig filltiroedd tu fas i Drefdraeth.

Tua chwe mlynedd yn 么l gwnaed penderfyniad unfrydol gan yr aelodau i werthu'r festri ac i fuddsoddi'r arian yn y capel a'i droi yn adeilad aml bwrpas. Nawr, nid dros nos y mae cwblhau gwaith fel hynny, ond o dipyn i beth ac o gam i gam, gwelwyd y freuddwyd yn dechrau troi yn realiti.

Bellach, mae gan Caersalem adeilad sydd yn gyfoes ac yn aml bwrpas, a hynny trwy ymdrechion nifer o adeiladwyr a chrefftwyr sydd yn aelodau yn y capel, ynghyd 芒 llu o wirfoddolwyr a roddodd oriau lawer o'u hamser er mwyn sicrhau bod yr agoriad yn cymeryd lle ar y dyddiad a benodwyd.

I ddweud y gwir, ychydig iawn o amser yn nhermau gwaith adeiladu a gymerwyd i gwblhau y gwaith. Caewyd y capel ar 么l yr oedfa ddiolchgarwch yng nghanol mis Hydref gyda'r bwriad o fod yn barod ar gyfer y Gymanfa Ganu a gynhelir yno ar Sul y Pasg. Diolch i ymroddiad pawb, sicrhawyd bod yr adeilad yn barod bythefnos cyn y disgwyl. Mae'r diolch i bawb am eu gwaith, ond mae'r clod, fel y dywedwyd ar daflen yr oedfa, - 'nid i ni, Arglwydd, nid i ni, ond i'th enw di dy hun rho ogoniant.'

Yr oedfa Agoriadol
Daeth llawer o bobl o bell ac agos i'r oedfa hon gan gynnwys llawer o iawn o bobl a fagwyd yng Nghaersalem. Dechreuwyd yr oedfa tu fas i'r capel ac fe agorwyd y drws yn swyddogol gan y chwaer May Davies, aelod ail hynaf yr eglwys. Methodd yr aelod hynaf, Elizabeth Lewis fod yno oherwydd anhwylder i gyd agor y drws gyda May.

Wedi i'r dorf fawr gymeryd eu lle yn y capel, rhoddwyd peth o hanes y fenter gan y gweinidog, y Parchg. Alwyn Daniels. Arweiniwyd y darlleniadau gan aelodau Caersalem yn cynrychioli saith gwahanol genhedlaeth cyn i'r Esgob Saunders Davies, (un a fagwyd yn y fro ac a fu'n mynychu nifer o weithgareddau yno yn ei flynyddoedd cynnar) ddwyn cyfarchion. Cafwyd gair ar ran Cymanfa Bedyddwyr Penfro gan y Parchg. D. Carl Williams cyn i'r Parchg. Eirian Wyn Lewis arwain mewn gweddi.

Pregethwyd gan y Parchg. Peter M. Thomas, Ysgrifennydd Undeb Bedyddwyr Cymru ac yntau a gyflwynodd cyfarchion yr Undeb. Bydd casgliad yr oedfa, sef 拢400 yn cael ei gyflwyno i Glyn Nest, sef cartref henoed y Bedyddwyr yng Nghastell Newydd Emlyn. Wedi'r oedfa, synnwyd pawb at y ffordd ddidrafferth y cafodd y cadeiriau eu troi ac yr ymddangosodd y byrddau er mwyn i bawb mwynhau digonedd o de er mwyn dathlu yr ail agoriad mewn steil. Croeso i unrhyw un alw i mewn i weld y capel. Gellir trefnu gydag unrhyw un o'r aelodau.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy