Ar benwythnos Gwener, Sadwrn a Sul, Ebrill 3ydd, 4ydd a'r 5ed, cynhaliwyd Ysgol Gerdd Offerynnau Pres yng Nghanolfan Stackpole ger Penfro, wedi ei threfnu gan bedwar ffrind - sef Matthew Jenkins (Abergwaun); Gareth Ritter; Robin Hackett; a Simon Howell, y pedwar yn (neu wedi bod yn) fyfyrwyr yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd.
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy'n berchen ar y Ganolfan, lle addas iawn i gynnal ysgolion penwythnos fel hyn. Mae llawer o ddiolch yn eiddo i'r Cwmni Murco am eu caredigrwydd drwy help ariannol, a'r rhodd o grysau-T i bob un yn cynnwys eu logo. Diolchwn hefyd i Mr Tuba a fu'n ddigon caredig i'w cefnogi drwy ddanfon pecyn o nwyddau i bob un ar y cwrs.
Bu llawer o aelodau Band Pres Wdig yn bresennol ar y cwrs, hefyd cerddorion offerynnau pres o wahanol rannau o Sir Benfro (yr ifancaf yn 10 mlwydd oed), gan wneud tua 40 o chwaraewyr i gyd.
Cyrhaeddodd pawb Stackpole ar y nos Wener, a thrwy gydol dydd Sadwrn a rhan fwyaf o'r Sul, buont yn ymarfer yn galed yn chwarae a dysgu, o dan y Cyfarwyddwr Cerdd, Mr Nigel Seamen, cerddor enwog sy'n chwarae'r tiwba gyda Cherddorfa 大象传媒 Cymru, ac yn grefftwr ar ei waith.
Uchafbwynt y cwrs oedd cynnal Cyngerdd ar y nos Sul a bu llawer o berthnasau aelodau'r band yno, a'r neuadd yn orlawn o wrandawyr. Perfformiwyd cyngerdd wych o dan arweiniad Mr Nigel Seaman, ac roedd 么l y dysgeidiaeth dros y penwythnos yn dangos yn y perfformiad.
Yn ystod y gyngerdd, roedd Mr Dave Danford wedi ei wahodd i chwarae'r marimba, ac roedd ei weld a gwrando arno'n chwarae'r offeryn yma'n rhyfeddol iawn.
I gloi, roedd y penwythnos yn llwyddiannus iawn, y tywydd yn sych a heulog, a phawb yno wedi mwynhau'r bwyd, y cwmni a'r profiad. Edrychant ymlaen i gael penwythnos tebyg y flwyddyn nesaf eto.
|