大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Lloffwr
Y Parcmon Carol Owen(canol)gyda Wardeiniaid Gwirfoddol sector y Gogledd.Chwith-dde:John Davis,John Ratcliffe,Roddy Campbell,Peter Evans,Cledwyn Davis,Dai Thomas,Artie Thomas,Carol Owen,Derek Rowland,George Potts,Wendy Ratcliffe,Pam Moore,Sue Potts. Ar y llwybr cywir
Mawrth 2006
Mae gogledd Sir Benfro yn elwa trwy weithgarwch, brwdfrydedd a chydweithrediad parcmyn a wardeniaid y Parc Cenedlaethol a gr诺p o wardeniaid gwirfoddol.
Prosiect hynod o werth chweil i'r wardeiniaid gwirfoddol oedd creu llwybrau cyswllt yn Dinas.

Treuliwyd oriau sylweddol yn clirio llwybrau troed sy'n arwain o'r olygfan sy'n edrych allan dros bentref Dinas. Fe osododd wardeiniaid Geoff Severn a Ioan Evans giatiau a dodrefn llwybr eraill. Fe ddywedodd Parcmon y Gogledd Richard Vaughan fod y gwaith wedi cymryd sawl wythnos ac wedi cyflwyno rhai anawsterau.

"Mae wedi bod yn waith heriol ond gwerth chweil," ychwanegodd. "Mae'r Wardeiniaid Gwirfoddol wedi ymdrechu'n galed ac rydyn ni wedi gweithio'n agos gyda pherchnogion y tir, sydd wedi bod yn gefnogol iawn. Mae'r llwybrau newydd yn dod i gyfanswm o tua 1 km ac yn cysylltu gyda hawliau tramwy eraill i greu taith gylch ddymunol iawn o amgylch y pentref."

Pont Bren
Adnewyddwyd pont bren ar lwybr coetir poblogaidd yng Nghwm Gwaun ac adnewyddwyd rhyd ar draws nant yn gyfan gwbl hefyd diolch i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Yn ddiweddar, fe orffennodd y contractwyr, a oedd yn gweithio i Awdurdod y Parc, y gwaith yn Dan Coed, ger Pontfaen. Mae'r llwybr yn un o rwydwaith o hawliau tramwy yn yr ardal sy'n cael eu defnyddio'n dda. Fe ddywedodd Uwch Barcmon y Gogledd, Geraint Harries, fod yr afon wedi torri o dan yr hen bont a'i fod yn gogwyd卢do'n ddifrifol.

"Roedd hi'n anodd ei chroesi, wedi ymsuddo ac mewn perygl o ddymchwel i mewn i'r nant. Mae'n beth da ein bod ni wedi rhoi pont newydd yno cyn iddi ddymchwel. Rydyn ni hefyd yn falch ein bod ni wedi gallu gwella'r bont oherwydd mae'r llwybr ar gylch daith boblogaidd sydd wedi'i rhestru ar wefan y Parc Cenedlaethol, ac mae'n rhoi cyfleoedd da i gerddwyr fwynhau ardal arbennig Cwm Gwaun."

Fe fu'r contractwyr Young Brothers o Landysilio yn gwneud y gwaith a chafwyd peth o'r pren ar gyfer y bont trwy Ganolfan Goetir y Parc Cenedlaethol yng Nghilrhedyn gerllaw. Yn ddiweddar, fe fu Cadeirydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol, y Cynghorydd Stephen Watkins, yn archwilio'r gwaith.

(Llun: Parc Cenedlaethol)


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy