大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Lloffwr
Huw Roberts Pererindod Huw
Hydref 2007
Ar Awst 20, 2007 cwblhaodd yr athletwr a'r cyfrifydd Huw Roberts o'r Eglwys Newydd bererindod o 70 milltir mewn pedwar diwrnod i Eglwys Santiago de Compostela yng ngogledd orllewin Sbaen.

Dilynodd lwybrau cannoedd o filoedd o bererinion o bedwar ban byd ar daith hanesyddol sydd wedi ei gwneud ers yr Oesoedd Canol. Mae'r daith yn cael ei chydnabod fel un o'r pwysicaf ynghyd 芒 Rhufain a Jeriwsalem.

`Roedd cannoedd yn cerdded wrth ymyl Huw, ac ar yr un diwrnod i Huw gwblhau ei daith 'roedd 300 o bererinion eraill yn gorffen, gan gynnwys pobol o Mecsico, Yr Ariannin a Norwy - i enwi dim ond rhai o'r gwledydd a gynrychiolwyd.

Cafodd Huw ei gyfweld gan Hywel Gwynfryn yn ystod y daith, a disgrifiodd yr olygfa yn fyw ar 大象传媒 Radio Cymru wrth iddo weld dinas Santiago am y tro cyntaf.

"Roedd gweld y ddinas yn brofiad emosiynol i mi, ond tybiaf sut fyddai pobol wedi teimlo yn y Canol Oesoedd ar 么l cerdded dipyn pellach na fi mewn esgidiau a dillad llai cyfforddus."

Derbyniodd dystysgrif ar gwblhau'r daith a'i enw yn Lladin ar dystysgrif y pererin yw Hugonem Roberts!

Pan gyrhaeddodd Santiago de Compostela, ymunodd 芒 thair mil o gynulleidfa yn Offeren y Pererinion yn y Gadeirlan sy'n cael ei chynnal yn ddyddiol am hanner dydd. Galwyd allan `Galles' sef 'Cymru' yn y gwasanaeth fel arwydd o bresenoldeb Huw yn yr Offeren.

Yn ogystal 芒 throedio llwybr hanesyddol, nod y daith oedd codi arian at glinig meddygol Kaselin, Lesotho sydd yn cael ei gefnogi gan Gapel Bedyddwyr y Tabernacl, Caerdydd, ac i Sefydliad Brydeinig y Galon. Hyd yma, mae Huw wedi codi dros 拢6,000 tuag at y ddau achos, ac mae'r arian yn dal i gyrraedd. Hoffai Huw diolch i bawb am eu cefnogaeth.

Am fanylion sut allwch chi gyfrannu, cysylltwch 芒 huw@ huwrobertscyfrifydd.co.uk

Mae Huw, s'yn 50 oed, yn fab i'r Parchg a Mrs John Roberts, Abergwaun ac yn enedigol o sir Benfro. Mae e wedi bod yn rhedeg yn gystadleuol ers dros 35 o flynyddoedd. Daeth yn 4ydd yn Marathon cyntaf Caerdydd ym 1981, 4ydd ym mhencampwriaethau dan do Prydain, 2il yn ddiweddar yn y Great Welsh Run yng Nghaerdydd. Cwblhaodd farathon Llundain dair gwaith, y tro gorau mewn 2 awr a 29 munud ym 1994.

Mae Huw yn ddiolchgar iawn i bobl Sir Benfro am eu haelioni gan fod tua 拢1,500 o'r 拢6000 a godwyd mor belled wedi dod o Sir Benfro.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy