大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Lloffwr
Sunderland Flying Boat Golwg ar y Ganrif Gynt
Ebrill 2005
Byddwn yn gofyn i'n gilydd o dro i dro am ein atgofion cynharaf o'n plentyndod, a prin y bydd llawer ohonom yn cofio am ddim a ddigwyddodd cyn ein trydydd pen blwydd.

Cefais fy ngeni yn gynnar yn ystod yr ail ryfel byd mewn t欧 o'r enw 'Morawel' ar y pen uchaf o Ffordd y Parrog yn Nhrefdraeth. 'Roedd fy ngenedigaeth yn agos iawn pryd y galwodd Doctor Dai (Dr. David Havard) yn y t欧, a gofyn i'n nhad pryd fyddai'r llanw uchel nesaf. Atebodd fy nhad y byddai rhyw hanner awr wedi tri o'r gloch y bore wedyn. "Dyna fe" meddai Dr. Dai, "Dyna pryd fydd y babi yn cyrraedd". Ac felly y bu. 'Roedd Dr. Dai wedi cyrraedd o flaen Nurse Price (gwraig Jack No Change) ac mae'n debyg fod yr enedigaeth wedi bod yn un rhwydd iawn.

Un o'r atgofion cynharaf sydd gen i yw amser 'roedd fy Mam wedi rhoi minnau yn y pram allan yn yr ardd, lawr yn y berllan. Mae'n sicr nad oeddwn mwy na dwy flwydd a hanner oed. Yn sydyn reit, dyma fi yn clywed rhyw s诺n anghyfarwydd, fel injan car yn chwiban. Wrth i'r s诺n gynyddu, edrychais i fyny a gweld y peiriant anferth yma uwch fy mhen. Ni chysylltais y s诺n gyda unrhyw berygl, ac wrth edrych i fyny, 'roedd y "gyrrwr" yn codi ei law arnaf, a minnau yn chwifio fy llaw fach 'n么1 ato.

Nid oes llawer yn coelio'r stori hon, ond meddyliwch am yr argraff y byddai hanner can tunnell o fetel yn gwneud ar fabi, a hwnnw' n hedfan dim mwy na hanner can llath uwch ei ben.

Erbyn hyn 'rwyn sylweddoli yn llawn mai un o'r "Sunderland Flying Boats" oedd hon, o'r math a ddangosir uchod. Bu nifer fawr ohonynt yn hedfan allan o Ddoc Penfro yn ystod y rhyfel lle 'roedd yn hawdd iddynt hedfan a disgyn ar aber y ddwy gleddau. 'Roedd y d诺r yma yn ddelfrydol iddynt gael codi o'r d诺r ac hefyd i lanio oherwydd nid oedd byth yn rhy arw iddynt.

Byddent yn cadw llygad ar yr arfordir i fyny mor bell ag Aberystwyth, a byddent yn amal yn ymweld 芒 Threfdraeth a disgyn ar y bae. Eu prif dyletswyddau fodd bynnag oedd amddiffyn y gosgorddion ("convoys") a fyddai yn cludo bwyd a nwyddau a.a. i'r wlad hon drwy rhan ogleddol M么r yr Iwerydd. I bob pwrpas, 'roeddent yn awyrennau tawel iawn, ac yn galled hedfan yn araf ac yn isel.

'Roedd llongau tanfor yr Almaenwyr ("U-Boats") wedi bod yn fygythiad mawr i longau masnachol y wlad hon yn y rhyfel byd cyntaf. Am y rheswm yma, sefydlwyd dwy orsaf yr RNAS (Royal Naval Air Service) yn Sir Benfro.- un yn Abergwaun yn 1917, a'r llall yn Noc Penfro. Bu'r ddwy orsaf yn defnyddio llongau hedegog (Flying Boats) at ei gwaith, a dyma oedd dechreuad awyrennau a fyddai yn galled codi o a disgyn ar y d诺r. Felly gellir dweud fod Abergwaun wedi chwarae rhan bwysig yn y datblygiad hwn.

Yn dilyn y rhyfel byd cyntaf, fe ddefnyddiwyd nifer o'r awyrennau hyn fel rhan o fywyd masnachol cyffredin. Adnabyddir hwy fel yr "Empire Flying Boats" ac fe ddaeth un o'r enw "Caledonia" (rhan o eiddo "Imperial Airways") i Ddoc Penfro ym 1937. Blwyddyn yn ddiweddarach cyrhaeddodd y "Sunderland" gyntaf,- peiriant anferth, hardd ei golwg gyda phedwar injan, a dyma oedd dechrau cysylltiad agos rhwng y "Sunderland" a Doc Penfro.

Mabwysiadwyd y motto' "Gwylio'r Glannau Gorllewinol" gan Doc Penfro, 'motto' a ddisgrifiodd yn berffaith prif waith yr awyrennau hyn. Gwyddai'r Llywodraeth Brydeinig y byddai'r "Sunderland" yn awyren ddefnyddiol a llwyddiannus iawn, a gwariwyd llawer o arian i'w datblygu hi i bum fersiwn. Dim ond awyren arbrofol oedd y "Mark IV" ac ni hedfanodd hon byth yn Noc Penfro, ond o'r cyrhaeddiad cyntaf defnyddiwyd tipyn o bob "Mark" arall. Y prif geffyl gwaith oedd "Mark III",- awyren a fyddai yn galled cario hyd at dwy fil pwys o fomiau.

Tra 'roedd y datblygiadau yma yn cymryd lle yn Doc Penfro, 'roedd nifer y sefydliadau a fu' n defnyddio'r adnoddau hyn yn cynyddu drwy'r amser. Ar wah芒n i'r Awyrlu Frenhinol, defnyddiwyd y lle gan ddwy o Awstralia, un o Ganada. yr Americanwyr gyda'u "Catalinas" a'r Ffrancod fel canolfan hyfforddi. Ar wah芒n i hyn, defnyddiwyd y lle er mwyn cynnal a chadw. Ar un adeg, fe seiliwyd cant o "Sunderlands" yn Noc Penfro. Amcangyfrifwyd fod yr orsaf yn cyflogi dros ddwy fil o fobl ar un adeg, ac yr oedd, o bell ffordd, yr orsaf fwyaf o'i math yn y byd.

Fel arfer, byddai'r "Sunderlands" yn cario naw o griw sef y peilot, ei go- peilot ac efallai trydydd peilot a fyddai'n dysgu'r grefft. Ar ben hyn byddai dau saethwr ("gunners"), llywiwr, gweithredwyr radio a "radar", a ph芒r o lygaid neu ddau i chwilio am y llongau tanfor.Yn ystod eu gyrfaoedd, credir bod y "Sunderlands" wedi 'lladd', neu cynorthwyo i ladd hyd at 27 o "U-Boats" ynghyd ag achub nifer fawr o forwyr a ddioddefodd 'torpedoes' yr Almaenwyr.

Yn drist fe ddinistriwyd yr holl "Sunderlands" gan yr Awyrlu ym 1957. Ni wnaethpwyd hyn yn Ffrainc nes ei bod yn 1961. Yn y flwyddyn hon, cyflwynwyd yr awyren uchod i'r dref (y diwethaf a welwyd yn Noc Penfro) gan Llynges y Ffrancod. Ar 么l deng mlynedd arall, anrhegwyd hi i Amgueddfa'r Awyrlu Frenhinol ("RAF Museum") yn Hendon.

Hoffem ddiolch o galon i Mr. John Evans o Barc Cenedlaethol Sir Benfro am ei barodrwydd i'm cynorthwyo gyda'r erthygl hon. Bydd ef yn gwario rhan fwyaf o'i amser hamdden yn ymchwilio i fewn i 'hedfan dynol' yn Sir Benfro yn arbennig y "Sunderlands".

Gan: Martin Lewis


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy