大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Lloffwr
Alun Ifans yn Lesotho O Gasmael i Lesotho
Mai 2007
Treuliodd Alun Ifans o Ysgol Casmael bythefnos yn Lesotho. Dyma rai ffeithiau am y wlad a'i brofiadau yn dysgu mewn ysgol yn ne Affrica.
Yn ystod gwyliau'r Pasg treuliais bythefnos yn dysgu mewn ysgol gynradd yn Mafeteng, Lesotho, De Affrica. Roedd y daith gyfnewid wedi ei threfnu gan Dolen Cymru / Lesotho.

Mae Lesotho tua 9,600 cilomedr i'r de o'r cyhydedd, yng nghanol De Affrica, does dim m么r o'i chwmpas (landlock). Mae'n wlad fynyddig gyda mynydd Thabana Ntleyana ei mynydd uchaf tua thair gwaith uwch na'r Wyddfa. Mae'n debyg o ran maint i Gymru - Lesotho tua 30,350 cilomedr sgw芒r a Chymru tua 21,000 cilomedr sgw芒r. Gwlad wedi ei rhannu'n ddeg ardal. Maseru yw'r brifddinas. Mae'n wlad annibynnol gyda brenin sef Letsie III, o dylwyth y crocodil. Mae'r brenin yn ymweld 芒 Thyddewi yn rheolaidd, buodd yno ym mis Mawrth eleni. (Cliciwch yma i weld llun ohono yn Nhyddewi ar Fawrth 1.)

Mae'n nhw'n siarad dwy iaith; eu mamiaith yw Sesotho ac ail iaith yw Saesneg. Mae'n wlad Gristnogol ac roedd tua 300 o bobl mewn gwasanaeth fore Sul a barodd am dair awr a hanner.

Mae dau fath o dai yn y wlad, sef T欧 crwn (roundbole) wedi ei wneud o gerrig a dwb ar y waliau to fewn, llawr pridd gyda tho gwellt. T欧 sgw芒r (heisi) wedi ei wneud o gerrig gyda tho gwellt neu sinc. Ychydig o dai sydd 芒 stafell ymolchi a thrydan, ceir d诺r o dap yng nghanol y pentref.

Mae pob pentre gyda darn o dir agored o'r enw pitso ble gall y bobl ddweud eu problemau wrth y pennaeth ac fe fydd e'n penderfynu ar y ffordd orau i ddatrys y broblem.

Arian y wlad yw maloti. Lumela yw 'Helo'. Ynganir L wedi ei ddilyn gan i neu u fel ein D ni, felly mae Lumela yn swnio fel Dumela. Mae eu haf ym misoedd Rhagfyr a Ionawr a'u gaeaf ym misoedd Gorffennaf ac Awst.

Mae ffyrdd tarmac a cheir yn y wlad ond mae'r ceffyl neu yr asyn yn parhau i fod yn ffordd boblogaidd o deithio. Gwelais nifer o fechgyn ifanc yn gofalu am ychydig o anifeiliaid (defaid neu wartheg rhan fwya'). Mae'r bugeiliaid yma yn cerdded drwy'r dydd yn gofalu am tua hanner dwsin o anifeiliaid a chwilio am borfa newydd i'w hanifeiliaid bori. Mae anifeiliaid yn bwysig iawn, dyma yw eu cyfoeth.

Golygfa gyffredin arall oedd gweld dynion yn torri cae o 欧d - pob un 芒'i gryman. Mae llawer o ddynion Lesotho yn gweithio yn y mwynfeydd aur a diemwntau yn Ne Affrica.

Roedd yr ysgol yn dechrau am 7.45a.m. ac yn gorffen am 1.45p.m. Mae'r plant yn dechrau'r ysgol yn 6 oed. Roedd 1,700 o blant yn ysgol gynradd Mafeteng ble roeddwn i'n dysgu. Mae'n rhaid i'r plant basio arholiad ar ddiwedd y flwyddyn cyn symud ymlaen i'r dosbarth nesaf. Roedd plant 16 mlwydd oed mewn dosbarthiadau gyda phlant 8 oed. Roedd y plant i gyd yn cerdded i'r ysgol, rhai plant yn cerdded am ryw awr a hanner bob bore a phrynhawn, tua 10 cilomedr. Roedd rhwng 50 a 70 o blant mewn dosbarth.

Roeddwn nhw'n coginio bwyd i ginio i'r plant mewn crochan ar d芒n agored. Papa, sef Indian Corn (maize) wedi ei falu a'i ferwi a d诺r a llysiau neu gawl pys a bara neu sogam (uwd) oedd i ginio a phob plentyn yn dod 芒'i bowlen ei hun. Dim bowlen - dim bwyd. Clywais fel roedd un ysgol yn yr ucheldir wedi cau wythnos ynghynt achos doedd dim bwyd i fwydo'r plant amser cinio.

Cawsom wib-daith dros fynyddoedd a gwastadiroedd uchel (plateau) Thaba卢 oedd wedi eu llosgi gan wres tan boeth yr haul. Teithiom i weld Cronfa dd诺r anferth Mohale. Mae Lesotho yn allforio d诺r i Dde Affrica (am bris resymol). Bu'n rhaid imi roi cyflwyniadau am Ysgol Casmael a Chymru i athrawon pedair ysgol cyfagos. Profais groeso cynnes trigolion ysgol gynradd Mafeteng a byddaf yn ddiolchgar iddynt am weithio mor ddiwyd i wneud fy ymweliad mor gyfoethog.

Alun Ifans, Ysgol Casmael


Cyfrannwch

june jones
diddorol iawn


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy